Tamanrasset

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Marchnad anifeiliaid yn Tamanrasset

Tref gwerddon yn ne Algeria yw Tamanrasset (Arabeg: تمنراست ). Hi yw prifddinas Talaith Tamanrasset. Saif ym Mynyddoedd Ahaggar yn anialwch y Sahara, 1320 m uwch lefel y môr. Roedd y boblogaeth yn 2006 tua 76,000.

Pan oedd yr ardal dan reolaeth Ffrainc, enw'r dref oedd Fort Laperrine. Ceir maes awyr yma.

Flag of Algeria.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Algeria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.