Mynyddoedd Ahaggar
Oddi ar Wicipedia
Mynyddoedd yn rhan ddeheuol Algeria yw Mynyddoedd Ahaggar, weithiau Hoggar. Safant ynghanol anialwch y Sahara, tua 1,500 km i'r de o Algiers ac ychydig i'r gorllewin o Tamanrasset. Y copa uchaf yw Tahat (3,003 medr).
Trigolion brodorol yr ardal yw'r Twareg neu Kel Ahaggar. Yn Abalessa, ger Tamanrasset, ceir beddrod traddodiadol Tin Hinan, cyndad mytholegol y Twareg.