Tŵr Babel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tŵr Babel: "Cymysgu'r Ieithoedd", darlun gan Gustave Doré

Tŵr uchel anferth a godwyd ym Mesopotamia, yn ôl yr hanes a geir yn yr Hen Destament, oedd Tŵr Babel. Fel un o chwedlau mwyaf cyfarwydd y Gristnogaeth, mae'n ymgais i esbonio'r ffaith fod nifer o wahanol ieithoedd yn y byd. Yn symbolaidd, mae'n cynrychioli balchder a thraha dynolryw.

Ceir chwedl Tŵr Babel yn Llyfr Genesis yn yr Hen Destament ac yn y Torah Hebraeg. Roedd disgynyddion Noa (sef y Dynolryw) yn siarad yr un iaith yn gyffredin, ond yn eu balchder - ar anogaeth y brenin Nimrod yn ôl un fersiwn - penderfynasant godi tŵr a fyddai'n cyrraedd y nefoedd a dinas orwych. Enw'r ddinas honno oedd Babel (Babilon), sy'n mwyseirio'r gair Hebraeg babel, sef "drysu". Ond roedd Duw yr Hebreaid yn anfodlon ar y gwaith uchelgeisiol ac rhag ofn i bobl unedig yn siarad un iaith yn unig ddechrau ceisio efelychu ei waith Ef ei hun, parodd iddynt siarad ieithoedd eraill, yn ôl eu llwyth, a dryswyd y gwaith ar y tŵr, a adawyd heb ei orffen. Gwasgarodd y llwythau, am nad oeddent yn deall ei gilydd, a byth ers hynny mae'r ddynolryw wedi'i hymrannu.

Credir mai'r ziggurats, tyrau sanctaidd Mesopotamia, a ysbrydolodd y chwedl am Dŵr Babel.

Mae'r chwedl wedi cael dylanwad mawr ar ddiwylliant y Gorllewin. Ceir sawl darlun a phaentiad ohono ac mae ganddo le pwysig yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol hefyd.

Roedd hanes Tŵr Babel yn gyfarwydd i Gymry'r Oesoedd Canol. Mae'n chwarae rhan yn hanes y Taliesin chwedlonol: yn y gerdd boblogaidd "Hanes Taliesin" mae'r bardd hollwybodol yn datgan mai ef oedd pensaer gwaith Tŵr Babel (Tŵr Nimrod).