Stribyn Möbius

Oddi ar Wicipedia
Llun cyfrifiadurol o Stribyn Möbius wedi'i anffurfio'n siâp crwn

Yn nhopoleg, sy'n adran o geometreg, mae Stribyn Möbius yn arwynebedd un ochr ag iddi un ymyl yn unig a wneir gan gymryd stribyn o ddeunydd, ei ddirdroi unwaith, a'i uno yn ei ddau ben i ffurfio stribyn di-dor.

Os torrir y stribyn ar ei hyd mae'n aros yn gyfan ond heb dro ynddo.

Cafodd y Stribyn Möbius ei ddarganfod gan y seryddwr Almaenaidd August Ferdinand Möbius (1780-1868).