Stephen Schwartz
Oddi ar Wicipedia
Cyfansoddwr theatr gerdd Americanaidd ydy Stephen Lawrence Schwartz (ganed 6 Mawrth, 1948). Mewn gyrfa sydd wedi para dros bedwar degawd, mae Schwartz wedi ysgrifennu sioeau cerdd megis Godspell (1971), Pippin (1972) a Wicked (2003). MAe ef hefyd wedi ysgrifennu'r geiriau i nifer o ffilmiau llwydiannus, gan gynnwys Pocahontas (1995), The Hunchback of Notre Dame (1996), The Prince of Egypt (1998; cerddoriaeth a'r geiriau) ac Enchanted (2007). Mae Schwartz wedi ennill y Wobr Drama Desk am Eiriau Eithriadol, tair Gwobr Grammy, tair Gwobr yr Academi ac wedi'i enwebu am chwech Gwobr Tony.