Cân2022 gan y grŵp Wcreineg Kalush Orchestra yw "Stefania" ( Wcreineg: Стефанія, [steˈfɑn⁽ʲ⁾ijɐ]. Enillodd Gystadleuaeth Cân Eurovision 2022, ar ôl i enillydd "Vidbir 2022", Alina Pash, dynnu ei hymgeisyddiaeth yn ôl. Enillodd 631 o bwyntiau. Roedd y gân rap gyntaf i ennill y gystadleuaeth. Mae'r gân yn awdl i fam
Cafodd artistiaid a chyfansoddwyr y cyfle i gyflwyno eu ceisiadau rhwng 14 Rhagfyr 2021 a 10 Ionawr 2022. Dim ond artistiaid nad oeddent wedi perfformio mewn cyngerdd yn Rwsia ers 2014 neu wedi dod i mewn i diriogaeth y Crimea ers 2014 oedd yn gallu gwneud cais am y gystadleuaeth.[2] Cynigiwyd Kalush Orchestra i gynrychioli Wcráin yn lle Pash. [3][4] Ar 22 Chwefror, derbyniodd y band y cynnig.[5]