Simonetta Vespucci
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd: Vespucci
Simonetta Vespucci (tua 1474) gan Sandro Botticelli
Simonetta Cattaneo de Vespucci (1453 – 26 Ebrill 1476), neu "la bella Simonetta", neu "La Sans Pareille", oedd gwraig Marco Vespucci o Fflorens yn yr Eidal. Honwyd hefyd y bu'n feistres i Giuliano de' Medici, brawd Lorenzo de' Medici, ac roedd yn enwog fel merch harddaf ei chyfnod yn yr Eidal. Ganed hi yn Genova.
Hi a welir yn beintiadau enwog Sandro Botticelli, Genedigaeth Gwener a La Primavera. Ysgrifennodd y beirdd Agnolo Poliziano a Luigi Pulci amdani.
Bu farw yn Fflorens yn 1476.
Cynnwys |
Portreadau [golygu]
Sandro Botticelli [golygu]
-
Simonetta Vespucci sy'n portreadu Gwener yn y llun enwog hwn gan Botticelli.
Piero di Cosimo [golygu]
-
Portread Simonetta Vespucci (tua 1480), Amgueddfa Condé, Chantilly, Ffrainc.
Llyfryddiaeth [golygu]
- Marcello Vannucci, Le donne di casa Medici, Newton Compton Editori, Roma 1999, ristampato nel 2006 ISBN 8854105260
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: