Sigur Rós
Oddi ar Wicipedia
Cyngerdd Sigur Rós yn Reykjavík, 2005
Band ôl-roc o Wlad yr Iâ ydy Sigur Rós. Maent yn enwog am eu cerddoriaeth gwreiddiol a llais falsetto y prif leisydd Jón Þór "Jónsi" Birgisson. Daw enw'r band o enw chwaer Jónsi, Sigurrós, sy'n golygu 'rhosyn buddugoliaeth'. Mae'r rhan fwyaf o'u caneuon yn cael eu canu yn Islandeg neu yn yr iaith ffug annealladwy Vonlenska sydd yn cael ei hadnabod fel Hopelandic yn Saesneg.
Cynnwys |
Disgyddiaeth [golygu]
Albymau stiwdio [golygu]
- Von (1997) - ("Gobaith")
- Ágætis byrjun (1999) - ("Cychwyn gweddol dda")
- () (2002)
- Takk... (2005) - ("Diolch...")
- Hvarf-Heim (2007)
- Með suð í eyrum við spilum endalaust (2008) - ("Gyda su yn ein clustiau, chwaraewn yn ddiddiwedd")
- Valtari (2012)
Albymau live [golygu]
- Inni (2011)
Aelodau [golygu]
- Jón Þór “Jónsi” Birgisson – prif lais, gitâr, gitâr fwa, allweddellau, harmonica, banjo, bas (ers 1994)
- Georg “Goggi” Hólm – gitâr fas, clychau taro, tegan piano (ers 1994)
- Kjartan “Kjarri” Sveinsson – syntheseiddwyr, allweddellau, piano, organau, rhaglennu, gitarau, ffliwt, chwiban tun, obo, banjo, llais cyfeiliant (ers 1998)
- Orri Páll Dýrason – drymiau, allweddellau(ers 1999)
Cyn-aelodau [golygu]
- Ágúst Ævar Gunnarsson – drymiau (1994–1999)