Siglen

Oddi ar Wicipedia
Plentyn ar siglen

Sedd grog, sydd yn aml i'w cael mewn meysydd chwarae i blant, i acrobat mewn syrcas, neu ar feranda er mwyn ymlacio, yw siglen (Saesnegː swing). Mae weithiau'n cael ei alw'n sigl dy gwt yn ne-ddwyrain Cymru.[1] Gall hefyd fod yn ddodrefnyn dan do, fel y crogwely Lladin-Americanaidd neu'r oonjal indiaidd. Gall sedd y siglen fod wedi'i chysylltu i gadwyn(i) neu raff(au). Unwaith mae'r siglen yn siglo, mae'n parhau i bendilio tan y bydd ymyrraeth allanol neu lysg yn dod ag ef i stop.

Ar feysydd chwarae, mae siglenni fel arfer ynghrog wrth ffram fetel neu bren. Mae rhain yn dod mewn amrywiaeth o siapiau a meintiau. Mae siglenni arbennig i'w cael ar gyfer plant bach sy'n rhoi tyllau i roi eu coesau trwyddynt i'w cadw ar y sedd wrth iddi siglo. Mae rhai siglenni yn rhan o strwythurau mwy sy'n cynnwys cyfarpar ar gyfer gweithgareddau eraill, fel llithren neu ffram ddringo.

Mae siglenni i blant hyn weithiau yn seddi cynfas, plastig neu bren. Mewn gardd, gall fod yn rhywbeth mor syml a pholyn neu astell ar ddarn o raff wedi'i glymu i gangen coeden.

Etymoleg[golygu | golygu cod]

Er mai 'swing' byddai gair nifer o Gymry ar lafar wrth ddisgrifio'r cyfarpar chwarae, mae'r gair 'siglen' yn hen un. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru gwelir y cyfeiriad cynharaf at 'siglen' mewn cerdd gan Deio ab Ieuan Ddu a Gwilym am Ieuan Hen yn y 15g sy'n dweud; "Rhodiwr a chriwr, chwarëych - wrth bren / Siglen geir dy ben, wrth gord y bych."[2] Nodir hefyd fod 'siglen' yn air arall ar gors neu mignen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Geiriadur yr Academi".
  2.  siglen. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Awst 2022.