Sierra Nevada (Sbaen)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mynyddoedd yn Andalucia, Sbaen, yw'r Sierra Nevada (Sbaeneg:"Mynyddoedd Eiraog"). Y copa uchaf yw Mulhacén, 3,479 medr, y copa uchaf yn Sbaen gyfandirol.

Er eu bod mor bell tua'r de, mae uchder y mynyddoedd yn golygu fod canolfannau sgïo poblogaidd yma. Dywed yr awdurdod twristiaeth lleol fod modd sgïo yn y mynyddoedd yn y bore ac ymdrochi ym Môr y Canoldir yn y prynhawn. Y ddinas agosaf yw Granada, gyda Málaga ac Almería ychydig pellach. Mae rhan o'r tiriogaeth yma wedi ei ddynodi fel Parc Cenedlaethol y Sierra Nevada.

Flag of Spain.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato