Sgwrs Nodyn:Infobox Website

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Bodoli'n barod?[golygu cod]

Mae Nodyn:Gwybodlen_gwefan gyda ni eisoes. Pa un sydd orau?--Ben Bore (sgwrs) 10:07, 22 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

Ydy, fel llawer o Nodion mae yma ddyblygu yn y ddwy iaith. Dw i wedi bod yn copio a phastio nifer o'r rhai Saesneg ers y dwy flynedd diwethaf am dri rheswm: yn gyntaf, y cwbwl sydd angen ei wneud wedyn ydy copio a phastio'r wybodlen unigol i fewn i'r erthyglau unigol. Os yw'n dibynnu ar wybodlen Gymraeg, yna fel arfer dydy hyn ddim yn bosib ac mae'n rhaid copio a phastio pob llinell unigol! Felly mae'n llawer haws. Yn ail, dw i'n meddwl y bydd wicidata'n haws i'w mewnbynnu ar wybodlenni Saesneg - cawn weld! Mae na drydydd rheswm: gan fod llawer iawn o'r Nodion oddi fewn i'r gwybodlenni'n ymblethu i'w gilydd (rhai gyda chymaint a 50 - 70 o is wybodlenni), does dim rhaid ail-greu'r olwyn pob tro! Mae'n goblyn o anodd darganfod pa rai sydd angen eu cyfieithu, fel y gwelsom [Sgwrs:Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Cymru a Lloegr, 2012 yma]. Mae'r doenni i'r isnodion yn bodoli'n barod yn y rhai Saesneg. Does na ddim prinder cof ar Wici, cofia! Mae'n ddiddiwedd. Cyn belled bod yr haen weladwy yn Gymraeg, does dim ots gen i ddefnyddio Nodion Sbaeneg, Lladin, Saesneg ayb yn yr iaith fewnol, anweladwy. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:59, 22 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
Y tri pwynt yn gwneud synnwyr, mond eisiau rhoi gwybod rhag ofn.--Ben Bore (sgwrs) 15:30, 22 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]