Sgwrs Categori:Delweddau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Trafodaethau o Archifau'r Caffi:

Trwydded cyhoeddi lluniau o’r Llyfrgell Genedlaethol[golygu cod]

Yn ystod cyfnod cynllun peilot Llyfrgell Genedlaethol Cymru fe fyddant yn rhyddhau lluniau o dan trwydded sydd ddim yn hollol rydd. Rwyn credu mai’r trwydded ‘i’w ddefnyddio ar Wicipedia yn unig’ ac ‘i’w ddefnyddio ar Wikipedia (Saesneg) yn unig’ yw’r trwyddedi y maent wedi penderfynu defnyddio. Dyna pam nad ydynt yn llwytho ar Gomin Wikimedia. Eu rheswm dros wneud hyn, os deallais yn iawn, yw ‘lack of room to manouvre’ lle mae hawlfraint y Llyfrgell yn y cwestiwn. Mae hyn yn golygu na fydd y prosiectau mewn ieithoedd eraill yn gallu copïo’r lluniau i’w herthyglau hwythau.

Gan mai dyma’r sefyllfa fel ag y mae, mae angen i ninnau yn Wicipedia ystyried yn ystod cyfnod y peilot am y canlyniadau posibl o gael delweddau nad ydynt yn rhydd ar Wicipedia. Mae’n rhaid pwyso a mesur a ydy manteision cael y lluniau hyn yn ennill ar yr anfantais nad yw’r trwydded yn un rhydd. Dyma rai pwyntiau perthnasol:

  • Wrth ddefnyddio lluniau sy’n cael eu rhyddhau gan y Llyfrgell Genedlaethol ei hunan rydym yn defnyddio lluniau o weithiau gwreiddiol ac nid copi o lun, felly mae safon y llun yn mynd i fod yn uchel a does dim amheuaeth ein bod yn defnyddio llun heb ganiatad, gan mai’r Llyfrgell ei hunan sy’n ei uwchlwytho. O ddefnyddio lluniau o’r fath fe fyddwn yn debygol o wella ymddangosiad Wicipedia a thrwy hynny denu darllenwyr. Yn achos llawer o’r delweddau dyma’r unig ffordd o’u cael ar Wicipedia o gwbl. Ymhlith lluniau casgliad John Thomas mae yna dir-luniau hanesyddol, a phan maent yn dir-luniau sydd wedi newid yna bydd dangos y lluniau o gymorth i egluro hanes ardal. Mae yn welliant ar erthygl bywgraffiadol i gael portread o’r person dan sylw – er y gellir dadlau nad yw’n hanfodol. A thrafod casgliadau eraill y Llyfrgell, fe fyddai’n welliant cael llun lliw yn enghraifft o ddalen mewn llawysgrif mewn erthygl ar y llawysgrif, yn hytrach na chopi o lun du a gwyn.

Ond pan nad yw defnydd o lun yn hanfodol i erthygl yna mae polisi Wikipedia yn golygu na chaiff ei gynnwys. Nid yw’n hanfodol cael llun o berson i ddeall y bywgraffiad amdano. Nid yw’n hanfodol cael llun o lawysgrif i ddeall cynnwys y llawysgrif. Felly mae’n bosib iawn y caiff y lluniau hyn eu diddymu ar Wikipedia Saesneg cyn gynted ag y cânt eu huwchlwytho.

  • Mae polisi wikipedia ar gynnwys cyfyngedig yn cyfeirio at fframwaith eu polisi fel a ganlyn:

‘’’Rationale’’’

    • To support Wikipedia's mission to produce perpetually free content for unlimited distribution, modification and application by all users in all media.
    • To minimize legal exposure by limiting the amount of non-free content, using more narrowly defined criteria than apply under United States fair use law.
    • To facilitate the judicious use of non-free content to support the development of a quality encyclopedia.

Os ydym am dderbyn lluniau Llyfrgell Genedlaethol Cymru bydd yn rhaid newid pwyslais ein polisi oddi wrth y nod cyntaf ac at y nod olaf.

  • Mae polisi Wikipedia (ac felly ein polisi ninnau tan i ni ysgrifennu polisi ein hunain) ar gynnwys cyfyngedig yn pwysleisio defnyddioldeb Wikipedia i ddefnyddwyr eraill. Dyma a fyddai’n cael ei golli o ychwanegu lluniau i’w defnyddio ar Wicipedia yn unig. Er mwyn derbyn lluniau o’r Llyfrgell Genedlaethol byddai’n rhaid llacio ar y polisi hwn ar Wicipedia, gan dderbyn na fyddai defnyddwyr yn gallu ail-gyhoeddi erthygl fel ag y mae – byddai’n rhaid iddynt dynnu’r llun o’r erthygl cyn gallu ail-gyhoeddi.
  • Petawn ni’n penderfynu caniatau lluniau a hawlfraint cyhoeddi ar Wicipedia yn unig arnynt yna beth am roi nodyn ar bob erthygl sy’n defnyddio’r lluniau hyn i ddweud bod llun heb hawl i’w atgynhyrchu ymhellach yn yr erthygl?
  • Os ydym yn penderfynu derbyn polisi sy’n caniatau cyd-weithrediad gyda llyfrgell Genedlaethol Cymru (a sefydliadau tebyg) yna byddai’n rhaid cael proses o gyd-weithredu i benderfynu a ydy rhyw ddelwedd yn ddigon pwysig fel ei bod yn werth ei chynnwys a cholli gallu eraill i atgynhyrchu’r erthygl. Os na wnawn hyn gallwn ddychmygu sefyllfa lle mae’r Llyfrgell yn uwchlwytho llun deniadol ac yna rydym ni’n ei ddiddymu am nad yw’n ddigon hanfodol i’r erthygl. Neu cawn afael ar lun rhydd ei hawlfraint a rhoi hwnnw yn lle un y Llyfrgell rhywbryd yn y dyfodol, ac oherwydd hynny gorfod dileu’r llun o Wicipedia. Ni allaf ddychmygu y byddai hynny wrth fodd y Llyfrgell, gan mai rhan o’u hymgyrch i rannu cyfoeth y Llyfrgell â’r cyhoedd yw’r prosiect hwn. (Mae'r llyfrgell wedi ateb y pwynt hwn i raddau helaeth gan y byddant yn ystyried y pwynt hwn cyn uwchlwytho eu hunain ac yn egluro'r rheswm dros osod y llun (gweler eu tudalen. Lloffiwr 23:07, 7 Awst 2008 (UTC))[ateb]
  • Mae digon i feddwl amdano, a hynny ar fyrder, yn anffodus! Rwyn mynd allan i'r ardd nawr. Lloffiwr 14:18, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]
I'm going to be cheeky and reply in English, but hope not to derail this thread into English by doing so - others feel free to switch back into Welsh - and apologies in advance if I've misunderstood any of the above. We do really need to sort out an Exemption Doctrine Policy as per the above thread, before we can proceed on this. It is not true to say that the policy from the English wikipedia is our policy until we write our own; the stuff here is reasonably clear that until we write our own EDP, the default policy is that any non-free images (which includes those with permission only for use on Wicipedia) will be subject to deletion. Also, if we do establish a policy which allows for non-free content, then we must make sure that the non-free content is identifiable in a machine-readable way, which I guess principally means a template on the image pages themselves, although Lloffiwr's additional suggestion of a template on the articles that use those non-free images is of course a good one. (Yn gobeithio dy fod wedi cael prynhawn da yn dy ardd, Lloffiwr - roedd hi'n wlyb yma yn Lloegr!) Alan 18:10, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Point taken, Alan, ein bod yn gweithredu heb EDP ar hyn o bryd. Gallwn fod wedi ysgrifennu llawer yn fwy eglur am yr holl broblem yma pe na bawn yn rhuthro i ddechrau trafodaeth am fod yr holl beth, oedd eisoes yn urgent nawr yn extra urgent. Yn wir, byth ers bod Geni wedi dechrau'r drafodaeth ar 'copyright' uchod rwyf wedi bod yn disgwyl gweld ein lluniau'n diflannu, ond mae'n ymddangos eu bod wedi dechrau tynnu oddi ar Commons i ddechrau arni - fe ddont at Wicipedia yn y man, mae'n siwr! Pan ddechreuodd y drafodaeth am Copyright mae'n rhaid cyfaddef mai canolbwyntio ar y delweddau nad oeddent yn rhydd oedd wedi eu huwchlwytho heb ganiatad yr oeddwn i. Dwi heb fy argyhoeddi y dylai polisi Wicipedia fod mor rhydd ag un Wikipedia o ran yr agwedd hon - ond mater i'w drafod uchod o dan copyright yw hynny gan nad yw'n berthnasol i luniau'r llyfrgell sy'n cael eu huwchlwytho trwy ganiatad, serch yn ganiatad cyfyngedig. A dweud y gwir, nid oeddwn wedi dychmygu y byddai'r Llyfrgell yn gweld yn dda i roi eu caniatad, gan eu bod hwythau wedi eu clymu gan ofynion deddf, cytundebau a pholisi. Pob credit iddyn nhw am fentro fel hyn.
Ynglŷn â'r pwynt am tagiau machine-readable, gan bod brys trafod polisi a gosod y teclynau pwrpasol, ayyb i gyd ar unwaith, oes rhywun yn fodlon ymchwilio i'r mater tagiau machine-readable a drafftio rhywbeth gan gymryd y bydd rhyw lun ar bolisi EDP ganddom ni cyn bo hir? Lloffiwr 21:56, 7 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Byddwn i wrth fy modd gweld delweddau prin, o safon uchel yma o gasgliadau't Llyfrgell Genedlaethol. Beth sy tu cefn i fy meddwl i ydy, beth sy'n digwydd petai ni'n llunio polisi delweddau (rhywbryd!), a bod ni'n penderfynnu ar bolisi fel y Wicipedia Saesneg sydd ond yn caniatau delweddau rydd, a'r Wikipedia Basgeg sydd ond yn caniatau lluniau dan drwydded Creative Commons? Dw i'n cymeryd byddai wedyn rhaid dileu'r holl ddelweddau o'r prosiect yma, a byddai hynny'n wast o amser pawb? Er, byddai'n beth gwirion efallai gwrthod delweddau o'r sail rhywbeth a efallai wnaiff byth ddigwydd. Mae'n ymddangos na fydd y Wiki Saesneg yn gallu derbyn y lluniau o gwbl felly.--Ben Bore 08:45, 4 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Yn cytuno bod yna risg y gallem gytuno ar bolisi EDP ac yna newid polisi ar ôl cyfnod ac y byddai hyn o bosib yn golygu colli delweddau. Oherwydd hyn rwyn credu ei bod yn werth cael trafodaeth drwyadl a chlywed llais cyn gymaint o ddefnyddwyr Wicipedia a phosib i leihau'r posibilrwydd i hyn ddigwydd. Yn fy marn i, os y byddwn yn llwyddo cael cyd-syniad ar bolisi EDP yna bydd y risg sy'n weddill yn werth ei gymryd, ac yn gobeithio bod y Llyfrgell hefyd yn fodlon mentro'r un fath. Lloffiwr 22:11, 7 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Dwi ddim yn siwr fy mod yn deall y ddadl yma yn iawn. Dwi wedi gweld sawl llun ar y wicipedia Saesneg lle cedwir yr hawl gan unigolyn neu gwmni - h.y. mae'n cael ei ryddhau i'r wicipedia dan amodau. Dwi'n meddwl mai eu polisi yw bod rhaid esbonio rationale y defnydd o'r ddelwedd mewn erthygl bob tro, ond fel arall mae'n cael ei dderbyn. A beth bynnag, oes rhaid inni ddilyn y wicipedia Saesneg? Yn ein achos ni mae cael lluniau da o enwogion y genedl a.y.y.b., na fyddent ar gael fel arall, yn gaffaeliad, a dweud y lleiaf. Beth am fabwysiadu polisi "en." yn ei grynswth ac ychwanegu cymal (ar unwaith!) sy'n eithrio delweddau a roddir yma gan y Llyfrgell Genedlaethol? Credaf mai ffolineb o'r fwyaf fyddai gwrthod neu ddileu delweddau sydd mor angenreidiol - ac ia, mae llun o berson i'w ddisgwyl mewn erthygl bywgraffyddol, er enghraifft, os ydyw ar gael, ac yn sicr mae'n ychwanegu'n sylweddol at werth a diddordeb yr erthygl. Anatiomaros 12:19, 6 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Cytuno'n llwyr gydag Anatiomaros. Mae 'na gyfoeth o luniau i'w cofleidio'n ddiolchgar! Llywelyn lll 23:36, 6 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Dioch am godi'r pwynt yma Anatiomaros. Ar Wikipedia Saesneg mae'r defnydd o luniau cyfyngedig eu hawlfraint i fod yn fach iawn, er mwyn cadw'r nifer o erthyglau, lle mae eu defnyddioldeb i ddarllenwyr (hy y gallu i ail-ddefnyddio) wedi ei amharu, mor fach a phosib. Mae'r prosiect hwn o bosib yn mynd i effeithio ar ddefnyddioldeb canran uchel o'r erthyglau am Gymru a'r Cymry. Felly yn fy marn i mae eisiau pwyso a mesur yr amharu yma ar ddefnyddioldeb Wicipedia. (O ran defnydd gan eraill sy'n mynd yn erbyn trwydded y llyfrgell, mae'r opsiwn gan y llyfrgell i dynnu eu trwydded yn ôl, ac er y byddai hynny'n golled wrth gwrs ac yn ddiwedd y stori, nid o ganlyniad i'n polisi ni y byddai hynny'n digwydd ac felly nid yr agwedd hon sydd ar fy meddwl.)
Os ydw i wedi deall ystyriaethau Mediawiki (diolch Alan am fy nghywiro ar hyn) a Wikipedia ar y mater yma, yna mae creu gwyddoniadur rhydd yn uchel iawn ymysg eu blaenoriaethau. Maent yn ceisio rhoi gofynion pobl gymharol di-freintiedig y byd yn gyntaf. Ar yr olwg gyntaf, gallem feddwl nad yw pobl Cymru ymhlith y mwyaf di-freintiedig. Ond ystyriwn, mae hygyrchedd Wicipedia yn dibynnu ar ba mor rhwydd yw hi i gael gafael ar gyfrifiadur a chysylltiad broadband iddo. Rhaid cofio bod y rhan fwyaf o'r cyfranwyr at Wicipedia yn cyfrannu trwy ddefnyddio cyfrifiadur a chysylltiad broadband iddo. Yr ydym felly ymhlith y breintiedig. Nid y rhai a broadband ganddynt sy'n teimlo effaith problemau cael hyd i'r wybodaeth ar Wicipedia. Y peth yw, mae'n llawer anoddach i fesur faint o bobl sydd heb gael mynediad i ryw wybodaeth oherwydd bod cynnwys cyfyngedig ar erthygl nag yw hi i weld bod erthygl wedi diflannu oherwydd bod rhyw end-user wedi torri hawlfraint a bod rhyw lun wedi ei dileu oherwydd hynny. Efallai y down i'r casgliad bod y gwelliant yn safon Wicipedia yn pwyso mwy yn y glorian na'r best guess am yr effaith ar ddefnyddioldeb i eraill, ond mae'n rhaid ei drafod.
(Fe ddilyn sylw rwyn gobeithio sydd at ddant y rhai ohonom sydd â'n sense of humour yn dal i fod yn fyw, serch treulio amser wrth y cyfrifiadur yn gweithio ar Wicipedia. Yr eironi yn y sefyllfa yw hyn - po fwyaf elastig mae dyn yn trin y mater o hawlfraint wrth uwchlwytho lluniau (h.y. po fwyaf nifer y lluniau lle nad yw'r hawlfraint yn rhydd), po fwyaf caeth yw'r cynnyrch o safbwynt y defnyddwyr (neu'r ail-ddefnyddwyr i fathu term). Fel ag y mae sefyllfa hawlfraint y byd sydd ohoni - argymell creu gwyddoniadur caeth y mae'r rhai sydd am weld cynnwys heb hawlfraint rydd ar Wicipedia, nid argymell creu gwyddoniadur gwirioneddol rydd!)
Gyda llaw, dwi hefyd yn gresynu na fydd lluniau sy'n ymddangos ar Wicipedia yn gallu ymddangos ar Wikipediau mewn ieithoedd eraill (cyfyngiad amlwg ar ledaenu'r gwybodaeth ymhlith y di-Gymraeg, ac eto pwynt y rhoddir pwyslais arno ym mholisi Wikipedia Saesneg), ond yn deall nad yw'n ymarferol ar hyn o bryd i'r Llyfrgell.
Ar y pwynt am eithrio'r Llyfrgell. Beth os y cawn gynnig tebyg oddi wrth sefydliadau eraill, e.e. amgueddfa Cymru? Hoffwn ein gweld yn eu trin i gyd yr un peth o ran polisi, os yn bosib. Dyna hen ddigon am heno - sori os nad wyf wedi mynegi fy hunan yn rhy glir. Lloffiwr 23:07, 7 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Diolch - sgwrs ddefnyddiol iawn. Dwi wedi ychwanegu nodyn am drwyddedau ar fy Nhudalen Defnyddiwr. Bydd hwn yn cael ei ddiweddaru fel ni'n mynd ymlaen Llyfrgell Genedlaethol Cymru 16:28, 7 Awst 2008 (UTC)[ateb]


Delweddau'r Llyfrgell Genedlaethol unwaith eto[golygu cod]

1. Rhag ofn nad yw Sgwrs Defnyddiwr:Paul Bevan (aelod staff y Llyfrgell) ar eich rhestr wylio, mae ychydig o sylwadau newydd wedi bod yno'n ddiweddar ac mae ychydig o ddryswch ynglyn a beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf parthed hawl defnyddio delweddau. Mae'n werth ychwangu hwn at eich rhestr gwylio.

2. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn bwriadu newid eu gwefan, ac mae ffurflen adborth (a chyfle i ennill £50!) ar dudalen blaen eu gwefan. Hanner ffordd trwyddo, mae'n gofyn i chwi enwi dwy wefan arall rydych yn ei hoffi ac yn meddwl sy'n enghreifftiau da o wefannau sydd â chynnwys sy'n hawdd ei gyrchu - felly mae'n werth meddwl am y rhain o flaen llaw. Efallai bod Wicipedia'n engrhaifft da? O'r leading quesitons mae'n ofyn, dw i'n cymeryd bydd yn Gwe2.0'aidd.--Ben Bore 15:58, 2 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Diolch am hyn, Ben Bore. Ia, mi hoffwn i wybod beth yn union sy'n mynd i ddigwydd hefyd, ar ôl cael cychwyn mor addawol. Anatiomaros 16:45, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Mae angen creu trwydded ar gyfer delweddau nad ydynt o dan drwydded rhydd arnom. Rwyf wedi bod yn ceisio deall sut mae gwneud hyn a gwneud i'r ffurflen uwchlwytho weithio'n iawn ers mis Awst ond heb gael digon o amser ben bwy gilydd i ddeall y peth yn iawn. Efallai mai'r peth callaf fyddai creu trwydded ar gyfer y Llyfrgell yn unig i ddechrau ac yna gwneud un mwy cyffredinol ar gyfer y delweddau eraill. Fe welais enghraifft o drwydded ar Wikipedia Saesneg ar gyfer y Boston Public Library oedd yn edrych yn addas i'w addasu ar gyfer y Llyfrgell. Dwi'n cynnig ein bod yn paratoi drafft o'r 'drwydded' a gofyn i'r Llyfrgell gadarnhau ei fod yn cyfateb i'w hanghenion nhw. Fe ges ar ddeall gan y Llyfrgell nad oeddent yn rhydd i roi trwydded i neb arall - dyna oedd rhan o bwrpas yr arbrawf fis Awst oedd gweld faint o gamddefnyddio fyddai ar y lluniau a roddwyd ar Wicipedia. Cyfeirio at dermau'r Llyfrgell yn uniongyrchol sydd raid i ni wneud ar ein 'trwydded' ni os dwi'n deall yn iawn. Mae hefyd yn bosib y cawn drafferth yn cael Wikimedia i dderbyn ein polisi defnyddio lluniau ni oherwydd y byddwn yn defnyddio lluniau'r Llyfrgell heb ganiatad ysgrifenedig oddi wrthynt - ymbalfalu y byddwn tan bod y cwbwl o'r materion technegol a'r materion polisi yn dod at ei gilydd. Dim amser i ysgrifennu mwy nawr. Lloffiwr 09:02, 9 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Diolch Lloffiwr. Mae dy gyfraniad caboboledig arferol fel manna i mi: mae hwn yn fater holl bwysig a braf fyddai ein gweld yn symud ymlaen yn handi efo hyn. Os fedraf i gyfieithu unrhyw beth, cofia ofyn. Ydy hi ddim yn bosib i'r Llyfrgell uwchlwytho'r lluniau ar Wici eu hunain? Yna, fyddai'r Llyfgrell ddim yn "rhoi trwydded i neb arall" a mi fyddent yn dal yr hawlfraint (neu a yw hyn yn gor-symlhau'r sefyllfa?). Yn ail wyt ti mewn trafodaeth efo rhywun o'r Llyfrgell, ers i'w cynrychiolydd nhw adael? Llywelyn2000 22:52, 9 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Unrhyw ymateb? Llywelyn2000 14:39, 22 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Rhoddwyd yr uchod yma er mwyn cadw'r drafodaeth mewn un lle, yn daclus. Anatiomaros 13:27, 9 Medi 2009 (UTC)[ateb]

Parhad (copïwyd o'r Caffi)[golygu cod]

Helo. Rwy'n rhan o dîm bach sy'n gobeithio ymchwilio, yn ystod mis Awst, i rannu rhywfaint o'r cynnwys digidol sy'n perthyn i Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Un o'r ffyrdd o wneud hyn yw trwy rannu rhai o'n delweddau a ddigidwyd ag erthyglau perthnasol ar Wikipedia a Wicipedia. Byddwn yn ddiolchgar iawn petaech yn anfon unrhyw adborth atom, felly mae croeso i chi bicio draw at ein tudalen 'Defnyddiwr' er mwyn gweld mwy o wybodaeth am y prosiect neu adael sylwadau ar y dudalen Sgwrs. Diolch! Llyfrgell Genedlaethol Cymru 09:32, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Syniad ardderchog : byddai'n hwb mawr i waith y wicipedia Cymraeg. (Gweler hefyd eich Tudalen Sgwrs). Anatiomaros 14:58, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Fedrith rhywun ddweud wrthyf ym mhle mae dod o hyd i'r hen luniau yma? Dwi wedi edrych ymlaen cymaint i'w gweld nhw, ond a ydyw'r Llyfrgell wedi dal at eu gair a'u rhannu ar Wicipedia? Byddai'n wych eu cael a'u defnyddio fel rhan o'n gwersi hanes. Diolch. Yn siomedig ond eto yn hyderus, RWJ.
Mi osodais rhai mewn categori arbennig Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas, ond ynglyn â'u defnydd fel rhan o wersi hanes, bydda rhaid gofyn i'r Llyfrgell am ganitad penodol dw i'n meddwl, yn ôl proffeil y llyfrgell (ar y gwaelod). Fel arfer, mae popeth sy'n cael ei cynnwys ar Wikipedia a Wicipedia ar gael ei bawb eu defnydido heb unrhyw gyfyngiadau, ond bu rhaid cael trwydded hawlfriant newydd er mwyn i'r Llyfrgell allu rhannu eu delweddau. Er bod hyn yn gores i ysbryd Wicipedia, cerdi'r ei bopd yn syniad da fel arbrawf er mwyn caniatau i'r Llyfgrell fynd ymlaen gyda'r prosiect peilot yma.--Ben Bore 16:42, 9 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Ategaf yr hyn mae Ben Bore wedi dweud. Rwyf wedi cysylltu eto gyda'r Llyfrgell wedi iddynt ychwanegu rhai sylwadau at eu tudalen. Byddant yn ysgrifennu rhagor am ddefnyddio'r lluniau mewn ysgolion ar dudalen y prosiect rwyn credu. Yr hyn ddywedwyd wrthyf oedd bod cytundeb i gael rhwng y Llyfrgell a'r 'National Grid for Learning' ynglŷn â defnyddio lluniau'r llyfrgell mewn ysgolion. Rwyf wedi ail-ddrafftio 'trwydded' y Llyfrgell ar ôl cael ymateb y Llyfrgell iddo felly dylwn allu ychwanegu hwn at eu delweddau cyn bo hir. Ond rhaid pwysleisio hyn: os mai'r lluniau'n unig yr ydych â diddordeb ynddynt yna dylai fod yr un mor hawdd cael gafael arnynt ar wefan y Llyfrgell ag yw hi fan hyn. Cyn uwchlwytho'r lluniau hyn fan hyn bydd rhaid ysgrifennu'r erthyglau y bydd y lluniau yn ymddangos ynddynt. Felly os am weld y llun, ysgrifennwch yr erthygl gyntaf! Mae'n debyg mai hwn fydd y gwaith mwyaf, yn hytrach na datrys problem technegol yr uwchlwytho. Yn ôl tudalen y Llyfrgell fe gawn fynd ati i uwchlwytho (unwaith y bydd y 'drwydded' wedi ei gwblhau) ein hunain. Mae drafft y polisi ar ddefnyddio lluniau pan nad yw'r drwydded yn rhydd yn barod i'w drafod. Byddaf yn cynnig bod lluniau'r Llyfrgell yn eithriad i'r polisi (oherwydd eu bod yn cael eu huwchlwytho ar ddatrysiad sgrin yn hytrach na datrysiad isel). Mae angen ysgrifennu canllaw ar sut i wneud yr uwchlwytho - dyna'r cam nesaf os oes rhywun am fynd ati i ddraftio. Fe af finnau ati os na fydd rhywun wedi achub y blaen arnaf, ond does wybod pryd - mae pwysau gwaith yn gwaethygu arnaf yn lle gwella. Fe fyddaf yn hen ddigon balch o weld diwedd y gwaith anferth hwn. Yn y cyfamser, os oes rhywun am uwchlwytho llun ac heb wybod sut, gallwch roi nodyn ar y Caffi yn gofyn am gymorth ac mae'n siwr y cewch gymorth neu gyngor ar sut i fynd ati. Lloffiwr 18:35, 13 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Beth ydy'r diweddaraf? Llywelyn2000 16:04, 4 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Ia, hoffwn i wybod hefyd. Pwynt arall, fel a nodais rywle neu'i gilydd o'r blaen, mae chwilio am lun yn iawn os wyt ti'n gwybod am be yn union rwyt ti'n chwilio, ond mae'r dewis yn gyfyng ar hyn o bryd - beth am eu deunydd llawysgrifol, er enghraifft? - ac weithiau rhaid chwilio sawl gwaith i gael hyd i ddelwedd berthnasol. Basai'n haws pe bai'r llyfrgell ei hun yn helpu a cheisio cyfrannu lluniau i'r erthyglau sy gennym yma yn barod. Anatiomaros 16:53, 4 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

COPÏWYD O'R CAFFI ar ôl ei archifio (Archif 12). Anatiomaros 20:07, 1 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]