Sgwrs:Ystadegau y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Wrth gwrs, byddai'n bosib ychwanegu llawer mwy o graffiau, mapiau a data eraill at yr erthygl yma.

Ond oes na ddigon ohonom i ddiweddaru'r erthygl yn rheolaidd? Dw i wedi ychwanegu cymaint ag y medraf ymdopi ag ef unwaith yr wythnos - ar ddydd Sadwrn! Yn hytrach nag ychwanegu rhagor, beth am fynd ati ar ddiwrnod arall ee ar ddydd Mawrth i'w diweddaru? Mae'r dolennau/cyfeiriadau yn dangos ble i chwilio, gan ei wneud yn eitha hawdd canfod y niferoedd. Dw i ddim yn dweud NA ddylid ychwanegu rhagor, ond os nad yw'r golygydd yn ei ddiweddaru, yna mi fydd yn cael ei ddileu. Does na ddim byd gwaeth na gwybodaeth anghywir, hen, wedi'i ffosileiddio mewn llyfr neu ar y we!

Golygydd Diwrnod
Sadwrn Defnyddiwr:Llywelyn2000
Mawrth Defnyddiwr:Cwmcafit
dyddiol Map

Wedi i'r hen aflwydd haint ma ddod i ben, gallem roi'r gorau iddi, os y byddwn yn dal yma yn de.

Llywelyn2000 (sgwrs) 07:58, 18 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Rwy’n fodlon gwneud Dydd Mawrth. Ond efallai syniad da byddai cael rhywun sy'n gwneud hwn yn ddyddiol am 3 o'r gloch, ac wedi cael profiad o ddelio gyda'r ystadegau am amser hyr? Dwi'n credu dwi'n nabod y person yn iawn! Beth amdano estyn allan i Lloyd ar Twitter? Mae fe'n gwneud diweddariadau yn ddyddiol am 3 o'r gloch ar ei wefan [1] ac ar twitter [2]. Yn ddiweddar mae wedi dod yn enwog am ei diweddariadau ac mae mwy o wybodaeth ar erthygl Cymru fyw.[3] Efallai bydd yn straen arno ond gallwn helpu gyda fformatio ac ati.(Nid rwyf yn siwr faint o brofiad ar wici sydd gyda fe). A does dim poen gofyn! Cwmcafit (sgwrs) 11:45, 18 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
Syniad rhagorol! Mi ddanfonaf ebost at y person sy'n gyfrifol am WiciCymru (Trydar). Yn y cyfamser, diolch am gynnig helpu! Byddai unwaith y dydd yn llawer gwell, ond ydy hynny'n bosib, yn ymarferol? Mae rhannu'r baich wastad yn help! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:08, 18 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
Fe wnes i olygiadau heddiw i ddileu peth o'r testun ail-adroddus o ran dyddiadau (sy'n boen i gofio diweddaru bob dydd). Rwy'n meddwl fod e'n well cynnwys esboniad am natur a ffynhonnell y ffigyrau mewn brawddeg a wedyn cadw'r tablau yn weddol lan. Nodwch hefyd nad yw pob ffynhonnell yn diweddaru 'ar y diwrnod'. Hynny yw mae nhw'n rhoi ystadegau i fyny at ddoe. Mewn gwirionedd mae ffigyrau achosion/marwolaethau 'heddiw' hefyd yn golygu data o 'ddoe'. Felly mae angen bod yn gliriach os yw'r dyddiadau yn cyfeirio at ddiwrnod y data neu ddiwrnod cyhoeddi'r data. Mewn rhai llefydd, mae hepgor dyddiadau o fewn y cyflwyniad yn well efallai a rhoi isdeitl sy'n nodi diwrnod 'data' --Dafyddt (sgwrs) 20:52, 21 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
Mae hynny'n well ac yn fwy eglur. Diolch am y llygad barud eto, Dafydd! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:55, 22 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]