Sgwrs:Yr Wyddfa

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Mae defnyddiwr newydd Defnyddiwr:Abacachadadda wedi rhoi'r isod i mewn yn yr erthygl:

RHYBUDD. MAE DRINGO MYNYDD YN Y GAEAF YN GALLU FOD YN BERYGLUS IAWN. MAE POBL YN MARW BOB BLWYDDYN. MAE'R TYWYDD YN NEWID YN GYFLYM. BYDDWCH YN OFALUS. PEIDWCH A DRINGO HEB SGIDIAU DA, MAP, AYYB. PEIDIWCH A DRINGO PAN YDY EIRA AC IA. PEIDIWCH A DECHRAU EICH TAITH YN HWYR YN Y DYDD.

Yn bersonol, dydw i ddim yn credu fod hyn yn addas i Wicipedia - nid hysbysfwrdd ydyw. Ac os rhoi rhybudd fel hyn ar gyfer yr Wyddfa, beth ddylem ni ei roi i mewn ar gyfer K2? Sut bynnag, rydw i wedi bod i ben yr Wyddfa lawer gwaith pan mae eira ac ia, ac rydw i'n dal yma gan fy mod i mor galed. Beth yw barn y gweddill? Rhion 12:28, 19 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Swnio fel mater barn i mi. Dwi'n meddwl gallwn ddibynnu ar defnyddwyr wicipedia i gael dipyn o synnwyr cyffredin... Ar y llaw arall buasai'n ddigon teg rhoi ffeithiau yn ôl marwolaethau a damweiniau gyda ffynonellau os oes ystadegau ar gael. Thaf 15:54, 19 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Gan nad oes ymateb pellach, rwy'n mynd i aralleirio hyn. Rhion 08:48, 1 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]
faint mor hir ydy crib goch? 159.86.182.166 15:05, 9 Mawrth 2022 (UTC)[ateb]


Mae pobol yn marw ar y mynydd ond dyn ni ddim ishe rhybudda nhw. Eu bai eu hunain rili. Cysga'n dda yn dy wely heno.

    • Ar hyd y grib yma y mae Rheilffordd yr Wyddfa yn esgyn.

Dim wir.........

Dim ond rhannau o'r lein sy ar y grib ei hun - mae'r rhan fwya yn rhedeg dan y grib ar yr ochor orllewinol. Fedrith rhywun feddwl am ffordd dda i fynegi hyn?

Cwestiwn[golygu cod]

Pa mor hir ydy crib go? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 159.86.182.166 (sgwrscyfraniadau) 15:05, 9 Mawrth 2022.