Sgwrs:Ynys Gybi

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ynys Gybi ta Ynys Cybi? Beth yw'r rhesymeg dros dreiglo Cybi? Ynys Cybi ydi'r enw ar arwyddion ffordd, yn enw'r ward ar Gyngor Ynys Môn ac ar fapiau Llwybr Arfordir Ynys Môn. Blogdroed (sgwrs) 12:38, 5 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]

Ateb cwestiwn o 2016! Digwydd gweld 'Ynys Gybi' ar Wikipedia Gwyddeleg wnes i.
Dwi'n eithaf siŵr mai 'Ynys Cybi' sy'n gywir achos genidol ydi o (ac nid ansoddair). 2A00:23C7:7C41:ED01:207D:DC93:918A:A8A5 22:44, 28 Ionawr 2024 (UTC)[ateb]
Ond dwi'n meddwl oedd y genidol yn treiglo yn hanesyddol. Dyna sydd wedi ei gofio yn 'Ynys Gybi' am wn i. (Yr un fath a 'Caer Gybi'?) 2A00:23C7:7C41:ED01:207D:DC93:918A:A8A5 22:57, 28 Ionawr 2024 (UTC)[ateb]