Sgwrs:Y Greal Santaidd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Cyfraniad dienw[golygu cod]

Rwyf wedi tynnu'r cyfraniad hwn oddi wrth ddefnyddiwr dienw a'i ludo yma oherwydd ei fod yn cynnwys rhai meddyliau diddorol, ond mae yna broblem:

Camddehongliad O “Greal Sanctaidd” yw wrth wraidd y peth. Ystyr “greal” yn yr hen Gymraeg yw “casgliad, teulu, dilynwyr, torf” a’r Greal Sanctaidd yw’r Teulu neu Dilynwyr Sanctaidd. Hyn yn adlewyrchu’r hen chwedl am Joseff o Arimathea (Ilid) yn arwain Teulu’r Iesu i Ddinas Bran yn Llangollen. Y gweddill, ynglyn a “cwpan” neu “carreg” sanctaidd wedi ei ychwanegu gan y Ffrancwyr yn y Canol Oesoedd. Camddehongliad yn arwain at straeon mawr gan Chretien de Troyes, Woolfram von Eschenbach ac eraill.

Y broblem yma yw mai sylw diamynedd ar ddehongliad prif ffrwd y Greal yw hwn, ac nid cyfraniad priodol i erthygl gwyddoniadur. Allwch chi gyflenwi ffynonellau (llyfrau, erthyglau, gwefannau) sy'n mynegi'r safbwynt hwn? Byddai hynny'n ddiddorol ac yn ddefnyddiol. Craigysgafn (sgwrs) 22:53, 24 Rhagfyr 2022 (UTC)[ateb]

Heddiw cafodd y dudalen ei gwagio gan ddefnyddiwr dienw. Mae'n debyg yr un defnyddiwr dienw. Mae hyn yn ymddygiad annerbyniol. Am y foment mae'r dudalen wedi'i diogelu rhag newidiadau. --Craigysgafn (sgwrs) 08:34, 25 Rhagfyr 2022 (UTC)[ateb]