Sgwrs:Y Dynion Mwyn

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ambell bwynt[golygu cod]

Dwi ddim yn deall hyn: "Yng Nghymru ceir dwy eglwys: Y Dynion Mwyn a'r Cymru Gwyddon". Ar wahân i ystyr "Y Cymru Gwyddon", sydd ddim yn gwneud synnwyr, sut all y DM gael dwy "eglwys" yng Nghymru gydag un ohonynt yn galw eu hunain "Y Dynion Mwyn" a'r llall ag enw gwahanol? Hefyd, a ydy'n iawn cyfeirio atynt fel "eglwysi"?

Mae'n erthygl ddiddorol, ond oes 'na ffynonellau eraill ar gael? Mae pob dim yma yn dod o wefannau cysylltiedig â'r DM eu hunain. Faint o sail sydd 'na i'r honiad fod hyn yn draddodiad gwirioneddol yn hytrach na chrefydd a luniwyd yn ddiweddar, er enghraifft? 'Mond gofyn! Anatiomaros 18:02, 1 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Dwi wedi cael hyd i hyn. Mae'n codi cwestiynau difrifol iawn. Anatiomaros 21:20, 1 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Hefyd hyn (gan Gymry). Anatiomaros 21:22, 1 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Oes rhywun wedi edrych ar hyn? Mae'r "erthygl" - os dyna'r gair - ar y wici Saesneg yr un mor unochrog ac annerbyniol. Mae'r ychydig dwi wedi ffeindio ar y we sydd ddim yn dod o wefannau y DM/"Eglwys y Tylwyth Teg" yn codi amheuon mawr ynglŷn â dilysrwydd llawer o'r hyn sy'n cael ei ddweud yma. Pa dystiolaeth sydd 'na am yr "eglwysi yng Nghymru"? O ddarllen rhwng y llinellau mae'n eitha posibl mai dau neu dri o bobl yw'r un ar Fôn (ac a ydynt yn Gymry hyd yn oed, neu "pobl yr Oes Newydd" sydd wedi symud yno?). Mae'r holl stwff 'ma am eu "gwreiddiau Cymreig" honedig yn fy nharo fel rwts hefyd (gweler yr ail gyfeiriad gwe uchod am farn Cymry sy'n cytuno!). Be ydy gwir hanes hyn oll, tybed??? Anatiomaros 22:40, 9 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Roeddwn yn ymwybodol o'r honiadau yn erbyn Rhuddlwm Gawr ayb. Mae'r holl gwfennau a restrir hefyd (ar wahan i'r enwau cyswllt) ar dynionmwyn.com yn arwain i'r un ebost, sydd (yn ôl y wefan) yn cael eu dosbarthu ganddynt hwy i bob cwfan unigol. Y pwynt ydy hyn: gan mai defodau / mudiad / eglwys gyfrin ydyw, chawn ni byth wybod i sicrwydd! Mae'n dweud yn ddigon clir ar ein herthygl ni ar Wici mai honiadau sydd yma ac nid prawf pendant. Gweler y rhybudd ar dudalen "Black Magic" ar y Wiki Saesneg er enghraifft
It does not cite any references or sources. Please help improve it by citing reliable sources. Tagged since September 2007.
It may contain original research or unverifiable claims. Tagged since May 2008.
A ble mae'r ffin? Yden ni'n mynd i gwtogi a mynnu tystiolaeth o storiau / honiadau beiblaidd a Christnogol ayb? Dwi'n meddwl bod rhybudd reit gadarn yn ddigon, ond dwi'n barod iawn i newid fy meddwl ar hyn pe ceid awgrym gwell. Llywelyn2000 06:49, 10 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Os oes yna ryw erthygl ble mae angen y tag 'cynnwys amheus' hwn ydy o. Hyd yn oed heb fodolaeth y gwefannau eraill sy'n cyhuddo William Wheeler o bob math o bethau, mae'r cyfeiriadu i gyd yn ymddangos fel eu bod i gyd yn dod o wefan/wefannau sy'n gysylltiedig ag un neu ddau person. Fy awgrym i ydy bod yr erthygl yn cael ei gwtogi i ryw 2/3 baragraff gyda ryw esboniad bras o'r pwnc (mae'n Cymraeg clir sy'n gwneud synnwyr!), ac efallai paragraff arall yn nodi amheuon a'r cyhuddiadau.--Ben Bore 11:05, 10 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Diolch am eich ymateb. Mae Llywelyn yn gofyn: "A ble mae'r ffin? Yden ni'n mynd i gwtogi a mynnu tystiolaeth o storiau / honiadau beiblaidd a Christnogol ayb?" Wel, nac ydym, siwr iawn, oni bai fod yr hanes a roddir yn anghywir neu'n mynegi safbwynt lleiafrifol yn unig, e.e. fod pob dim a ddywedir yn yr Hen Destament yn llythrennol wir a bod y Ddaear yn fflat! Y gwahaniaeth ydy bod mwy nag un ffynhonnell annibynnol ar gael yn achos straeon o'r Beibl ayyb ac felly gellir creu erthygl gytbwys gyda ffeithiau y gellir eu gwiro a hefyd nodi gwahanol farnau a dadansoddiadau pe bai rhaid. Dwi'n dal i feddwl fod rhywbeth amheus iawn (a bod yn garedig!) am yr holl fusnes 'ma o'r "Dynion Mwyn", yn enwedig y cysylltiadau Cymreig honedig ("breuddwyd gwrach"?!). Sylwer dwi ddim yn dweud na ddylem gael erthygl amdanynt, ond mae'n anodd gwybod be 'di be heb ffynhonnell annibynnol. Cytunaf gyda Ben fod paragraff sy'n nodi'r cyhuddiadau yn syniad da (gan fod yn ofalus i eirio hynny'n iawn, rhag ofn cael achos enllib!). Anatiomaros 17:07, 10 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Ymlaen felly gyda'r siswrn! Llywelyn2000 22:42, 10 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]