Sgwrs:Rhestr bandiau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dylid dileu hwn yn fy marn i neu fe gawn ein llethu gyda'r math yma o negeseuon

Dyfrig 10:09, 31 Aws 2004 (UTC)

A fyddai'n werth gwneud is-gategori ar gyfer band sy'n canu'n Gymraeg? Ges i drafferth ffeindio'r dudalen yma via cerddoriaeth rhaid cyfadde. Doedd o ddim yn amlwg iawn. Fyddai'n werth dechrau prosiect i gasglu gwybodaeth am fandiau pop/roc/electronig Cymru? --Nwdls (sgwrs) 11:21, 26 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]

Mae hi'n draed moch yma braidd o ran rhestrau a categoriau fel hyn am fandiau ac ati. Mae gen ti'r rhestr yma, ac hefyd Categori:Bandiau Cymreig (sydd fel hwn, yn rhestru bandiau sy'n canu yn y ddwy iaith), a sawl is gategori. Mae eisiau rhestr/categori unigryw ar gyfer perfformwyr Cymraeg YNFI. Falle'r ffordd hawsaf i ddchrau ydy copio cynnwys a ffurf y rhestr yma a dechrau rhestr o'r newydd gan hepgor y rhai di-Gymraeg. Baswn i'n hoffi ei newid dros amser wedyn i ffurf tabl falle er mwyn cael nodi blwyddyn ffurfio/chwalu, genre(?) a falle aelodaeth/bio byr - rhywbeth i ddod dros y ddadl o pa fandiau sy'n haeddu erthygl neu beidio.
O ran dechrau WiciBrosiect, baswn i'n fodlon gosod y peth i fyny a gweld sut aiff hi.--Ben Bore (sgwrs) 11:41, 26 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]