Sgwrs:Penycloddiau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pa hwyl Anatiomaros. Parthed: http://www.megalithic.co.uk/article.php?sid=5983 Megalithic Portal] gwelaf dy fod wedi dileu'r wybodaeth mai gwefan Saesneg ydyw. Ydy hynny'n beth da? Dwi'n teimlo fod ei ddweud fel hyn yn rhybudd teg, ac nad yw'n sgrechian cymaint a'r eicon:Sa trwm. Beth ddywedi di rhen gyfaill? Llywelyn2000 22:55, 27 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Sut mae Llywelyn? Yr unig reswm dros hynny ydy bod ni ddim yn arfer nodi iaith cyfeiriadau fel rheol (yn wahanol i'r 'Dolenni allanol'). Fel arfer mae'n amlwg beth bynnag. Dwn i ddim, mater o arfer y wici ydy o (ac estheteg/diwyg efallai?), dim yn fater o fympwy personol o fy ran i. Croeso i ti roi o nôl, wrth gwrs. Anatiomaros 23:51, 27 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Diolch i ti. Dolen allanol: angen nodi iaith y wefan; dolen allanol o dan y pennawd "Cyfeiriadau": dim angen nodi'r iaith. Wela i mo'r gwahaniaeth; mae'r ddwy yn ddolennau allanol!! Ond bid a fo am hynny. Os mai dyna drefn yr hen Wici, boed hynny! Llywelyn2000 03:05, 28 Mai 2009 (UTC)[ateb]