Sgwrs:Parti Pyjamas Mwyaf y Byd!

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

Mae'r digwyddiad yn haeddu lle yng ngwyddoniadur 'Wicipedia' am y rhesymau hyn:

- mae'n ddigwyddiad unigryw, cenedlaethol - mae'n ddigwyddiad fydd yn cael ei gefnogi gan filoedd o unigolion ledled Cymru (ac mae'r gweithgaredd eisoes wedi cychwyn fel y tystia'r trydariadau a'r negeseuon ar 'Facebook') - mae'n gofnod o ddigwyddiad sy'n dathlu a chydnabod gwaith cylchoedd meithrin, meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg, grwpiau 'Cymraeg i Blant' a Chylchoedd Ti a Fi (heb grybwyll y sefydliadau - cenedlaethol a lleol - eraill fydd yn

 cefnogi fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Mentrau Iaith, ysgolion cynradd, Merched y Wawr, yr Urdd ayyb) 

- mae'n gofnod o ddigwyddiad sydd yn tanlinellu pwysigrwydd gweithgareddau addas i'r blynyddoedd cynnar megis dysgu trwy chwarae, darllen a chysgu - mae'n gofnod o ddiddordeb sydd eisoes wedi ennyn diddordeb gan gyfryngau torfol Cymraeg megis 'yr awr Gymraeg' a chyhoeddiadau eraill megis "The Denbighshire Times" a phapurau bro - mae'n ddigwyddiad sydd wedi cael ei drafod ar raglen 'Prynhawn Da' (S4C) ar 02.05.17