Sgwrs:Llanferres

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Stori dda, ynte? Ond ai 'ymolchi' ddylai fod yma, ynteu golchi dillad? Llywelyn2000 07:37, 30 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Golchi sy'n gywir, mae ymolchi yn ymwneud a golchi dy hunan.Thaf 11:21, 30 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Ydy siwr. Na, holi oeddwn beth sydd yn y chwedl: ti'n awgrymu mai golchi sy'n gywir. Ydy'r ferch yn golchi rhywbeth neu'i gilydd? Os ydy, yna beth mae hi'n ei olchi? Os mai hi ei hun, yna mae angen ei newid i 'molchi' / 'ymolchi'.
Golchi dillad o ryw fath (paid â gofyn beth yn union... mae hyn yn wefan deuluol!). Mae'n thema llên gwerin Geltaidd adnabyddus ("Golchwraig y rhyd"). Anatiomaros 18:00, 30 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Diolch. Os oedd hi newydd gael rhyw, yna efallai mai ryw fath o ddefod atal cenhedlu oedd ganddi! Llywelyn2000 18:53, 30 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Efallai, ond cyn y weithred roedd hi'n golchi (ac ar ôl hynny, am wn i!). Duwies - neu agwedd ar y Dduwies - oedd hi'n wreiddiol, wrth gwrs, yn cynrychioli Tynged a Sofraniaeth, mae'n debyg (brwydrau yn y rhyd, ac ati). Anatiomaros 19:20, 30 Hydref 2008 (UTC)[ateb]