Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud.
Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry.
Mi fyddai'n dda petawn ni fedru cael cyfieithiad Cymraeg Modern a Saesneg gyda'r marwnad hwn hefyd - dwi ddim yn meddwl gall llawer o bobl ei deall yn y Gymraeg mae ynddi ar hyn o bryd. Mae rhywun ar fforwm y BBC wedi gofyn am gyfieithiad, ac dyma beth sydd gyda fi:
Cymraeg Canol
Oerfelawg calon dan fron o fraw,
Rhewydd fal crinwydd ysy'n crinaw;
Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?
Poni welwch chwi'r deri'n ymdaraw?
Poni welwch chwi'r môr yn merwinaw'r tir?
Poni welwch chwi'r gwir yn ymgweiriaw?
Poni welwch chwi'r haul yn hwyliaw'r awyr?
Poni welwch chwi'r sŷr wedi'r syrthiaw?
Poni chredwch chwi i Dduw, ddyniadon ynfyd?
Poni welwch chwi'r byd wedi'r bydiaw?
Och hyd atat ti Dduw na ddaw - môr dros dir!
Pa beth y'n geidr i ohiriaw?
Cymraeg Modern
Oer fydd y galon dan fron o fraw,
Rhewyd gan ofn, fel pren sych;
Oni welwch chi hynt y gwynt a'r glaw?
Oni welwch goed derw'n ymdaro?
Oni welwch chi'r môr yn parlysu'r tir?
Oni welwch chi'r gwir ar ei fol yn gwingo?
Oni welwch chi'r haul yn yr awyr yn hwylio?
Oni welwch chi'r sêr wedi syrthio?
Oni chredwch chi yn Nuw, ddynion gwirion?
Oni welwch chi'r byd wedi darfod?
Och atat ti, Dduw, na ddaw môr dros y tir!
Pam ydym yn ymatal?
Saesneg'
Cold is the heart in awe-filled breast,
Fear-frozen, brittle as dry brushwood;
See you not the way of the wind-driven rain?
See you not the oaks trees trembling?
See you not the land benumbed by blows of the sea?
See you not the truth on the floor groveling?
See you not the sun in the sky sailing?
See you not the stars that have fallen?
Believe you not in the name of God, foolish men?
See you not [what] the world stands still?
The sea does not come across the land to you, God!
What reason for us remaining?
Does gen i ddim byd yn erbyn trosiad Cymraeg Diweddar, o ffynhonnell dda, ond dwi ddim yn gweld fod angen cyfieithiad Saesneg o gwbl ar y Wicipedia Cymraeg. (Gyda llaw, mae'r un a ddyfynnir yn wael!) Mae iaith ein hen lenyddiaeth yn creu problem, ond credaf ei fod yn hollbwysig cael y testun gwreiddiol hefyd, yn enwedig yn achos barddoniaeth. Anatiomaros23:58, 24 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
OON Ceir aralleiriadau yn y ddwy gyfres safonol 'Cyfres Beirdd y Tywysogion' a 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr', ond y broblem gyda'r rheiny ydy'r hawlfraint. Anatiomaros00:06, 25 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Na, wedi dweud hynny, ti'n iawn - 'sdim angen cyfieithiad Saesneg os yw'r Cymraeg Diweddar gyda ni yn ei lle. P'un sy'n chwerthinllyd - y Gymraeg Diweddar neu'r Saesneg? Daeth y CD o Wicisource a fy nghyfieithiad i (wel, cais i'w gyfieithu!) yw'r Saesneg. Does dim profiad gyda Chymraeg Canol, felly bydd angen arbenigwr arnom ni (ti, efallai!) gyda hyn. Beth sy'n bod gyda'r hawlfraint? -- Xxglennxx★sgwrscyfraniadau★00:08, 25 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Does dim problem gyda dyfynu darn(au) o'r aralleiriad ond mae o dan hawlfraint wrth gwrs, felly rhaid i ni fod yn ofalus. Gyda llaw, mae'r golygyddion yn cynnig aralleiriadau sy'n ceisio cyfleu'r ystyr yn hytrach na "chyfieithu". Enghraifft:
Oerfelawg calon dan fron o fraw, / Rhewydd fal crinwydd ysy'n crinaw = "Trist [yw'r] galon dan [y] fron oherwydd braw, / Y mae chwant yn crino fel coed crin".
Ond yn aml yn achos yr hen ganu mae amwysedd ystyr yn fwriadol a'r sain a'r dilyniant o ddelweddau sy'n cyfrif. Ond mae'n hwyr heno - rhagor am hyn fory efallai? Anatiomaros00:27, 25 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Gyda llaw, does dim ffynhonnell ar gyfer y fersiwn Cymraeg Diweddar ar Wikisource([1]). Mae'n dod o rywle, mae'n amlwg. Roeddwn i'n meddwl hefyd mae lle ar gyfer testunau gwreiddiol oedd Wikisource? Rhyfedd. Anatiomaros00:35, 25 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Mae'r testun yn y rhan enwog, y "Poni"au, yn ddiddorol. Yn ôl y testun gwreiddiol yn Llyfr Coch Hergest, a newidiad Anatiomaros, "pany" sydd yn y rhan "Poni chredwch-chwi i Dduw", ond mae Thomas Parry yn defnyddio "Poni" yn "TOBOWV". P'run y dylid ei ddilyn? Eisingrug17:10, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n dyfynnu o'r golygiad safonol a geir yng Nghyfres Beirdd y Tywysogion. Diweddarwyd yr orgraff gan y golygyddion, fel sy'n arferol yn y Gymraeg (e.e. Cymraeg Canol pany > pani). Dwi ddim yn gwybod pam fod pobl yn newid o o hyd, yn enwedig gan fy mod yn rhoi'r ffynhonnell yn glir! Anatiomaros17:18, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Diolch am dy ateb. Am wn i ei fod yn edrych yn od ar ôl cymaint o "Bonis" a bod rhai yn tybio mai gwall teipio ydyw. Esboniad arall yw bod gan fwy o bobl yr OBOWV sy'n rhoi'r testun yn anghywir. Eisingrug17:27, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]