Sgwrs:Gorllewin Swydd Efrog

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Swydd Gorllewin Efrog neu Gorllewin Swydd Efrog?[golygu cod]

Mae Gorllewin Swydd Efrog yn fwy cywir siawns?--Ben Bore (sgwrs) 09:48, 11 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

Ro'n i'n teimlo'n union fel ti wrth deipio'r enw, ond mi welais ei fod wedi ei greu yn 2008 gan Anatiomaros, felly gadewais iddo! Tybed o ble gafwyd yr enwau hyn nol yn 2008? Oes yna gofrerstr o enwau cydnabyddiadig? Os na cheir dadleuon dros gadw'r hen fathiad, dw i'n cytuno a thi Ben, a mi wnai eu nhewid - ar ol gorffen holl drefi Lloegr. Wedi dweud hyn, mae gweddill y siroedd yn cychwyn efo'r gair Swydd! Llywelyn2000 (sgwrs) 23:19, 11 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
"Gorllewin Efrog" (heb Swydd na Sir) sydd yn Yr Atlas Cymraeg Newydd, ac hefyd "De Efrog", "Gorllewin Efrog", "Riding Dwyreiniol Efrog", ac "Efrog". Dim ond ychydig o'r siroedd y mae'r atlas yn rhoi "Swydd" ar ddechrau eu henwau: Swydd Gaerlŷr, Swydd Derby a Swydd Nottingham yw'r unig enghreifftiau yn Lloegr. Ar y llaw arall, ceir Amwythig, Henffordd, Stafford, Rhydychen ayyb heb "Swydd" yn eu henwau. Yn ôl fy nhyb i, y rheswm am hwn yw bod dinasoedd Caerlŷr, Derby, a Nottingham hefyd yn awdurdodau lleol o rwy fath (ond eto mae ffiniau'r map yn yr atlas (1999) yn wahanol i'r ffiniau yma!). —Adam (sgwrscyfraniadau) 23:59, 11 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]