Sgwrs:Dyneiddiaeth

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Honiadau camarweiniol[golygu cod]

Mae dau honiad yng nghyflwyniad yr erthygl hon sydd braidd yn gamarweiniol. Yn gyntaf, mae'r erthygl yn honni bod "gan ddyneiddiwr ffydd mewn adnoddau meddyliol dyn i ddod a gwybodaeth a dealltwriaeth i’r byd, ac i ddatrys y broblemau moesol ynghlyn a defnyddio’r gwybodaeth hwn." Mae'n wir bod dyneiddwyr yn credu mai adnoddau meddyliol dyn y dylwn ni eu defnyddio i geisio deall y byd a datrys problemau, ond dwi'n meddwl bod y gair "ffydd" yn camarwain y darllenydd. Safbwynt dyneiddwyr modern yw nad oes adnoddau gwell ar gael, ac y dylwn ni eu defnyddio i geisio datrys problemau'r byd. Ond dydy hyn ddim yn golygu bod gan ddyneiddwyr ffydd llwyr y gall adnoddau dynol ddatrys pob problem (ac mae'r testun presennol yn awgrymu hyn). Yn ail, honnir bod "Dyn yw mesur popeth" yn gyweirnod i ddyneiddiaeth. Yn hanesyddol mae'n bosib bod hyn yn wir, ond dwi'n amheugar iawn am gymwysiadolrwydd y dyfyniad hwn i ddyneiddwyr modern. Dwi hefyd yn anfodlon bod Llywelyn2000 wedi gwrthdroi fy ngolygiadau heb unrhyw eglurhad o gwbl. Dwi'n hollol fodlon i drafod pethau fan hyn cyn mynd yn bellach, ond dwi ddim yn fodlon i gael fy nhrin fel fandal. Garik 15:43, 3 Medi 2011 (UTC)[ateb]

Diolch am eich cyfraniad ac am ymestyn syniadaeth yr erthygl.. Mae'n ddrwg gen i wna wnes i adael sylwadau'n egluro pan wnes i droi'r testun yn ol yma. A diolch am ddod yn ol ataf. Mi wnes i hynny oherwydd fod eich ychwanegiad (ar y chwith i'r dudalen uchod, mewn coch) yn cymhlethu'r frawddeg gan ei gwneud hi'n anodd ei deall. Mae'ch ychwanegiad yn cynnwys cromfachau mewn isgymal ar ddiwedd y frawddeg - arddull anarferol os nad anghywir. Mae croeso i chi ychwanegu'r syniadau sydd gynnoch chi eto, mewn modd symlach. Yn wir, fel y dywedwch, mae angen gwella'r erthygl hon, cynnwys cyfeiriadau Cymreig a thacluso'i hiaith hefyd. Croeso i chi wneud hynny, mi dria inna pan gaf gyfle. Llywelyn2000 22:59, 3 Medi 2011 (UTC)[ateb]
Diolch am eich ateb, Llywelyn. Fel ieithydd, dwi'n fwy amheus ynglŷn ag anarferoldeb cromfachau mewn isgymal ar ddiwedd brawddeg (a go brin fod cwestiynau arddulliadol fel hyn yn fater o "gywir" ac "anghywir"). Er hynny, dwi'n hollol barod i gyfaddef nad oedd fy newidiadau wedi eu mynegi'n dda iawn; wnes i'r golygiad ar frys, ac mi oeddwn i'n bwriadu mynd ati i dacluso'r erthygl, yn cynnwys fy nghyfraniad i, pan fyddai mwy o amser gennyf. Ac dwi o hyd yn gobeithio cael yr amser i wneud hynny, efallai tua diwedd yr wythnos. Garik 16:37, 4 Medi 2011 (UTC)[ateb]