Sgwrs:Dinorwig (bryngaer)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Anatiomaros. Croeso nol unwaith eto. Cafwyd sgwrs sydyn y bore ma am yr atalnodi a ddefnyddiwn ar deitl (a Chategoriau). Wnei di gymryd cip ar: Sgwrs Defnyddiwr:Rhion os gweli di'n dda ble roeddem yn trafod y gwahaniaeth / cysondeb rhwng naill ai Dinorwig, bryngaer neu Dinorwig (bryngaer). Rwyt ti'n ffafrio cromfachau, mae'n amlwg. Oes angen cysondeb? Llywelyn2000 23:45, 27 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Su' mae, Llywelyn? Diolch am y croeso nol eto. Yn achos pobl a phethau cromfachau piau hi, dwi'n meddwl, ond mae'n fater o arfer a dewis yn achos lleoedd daearyddol fel pentrefi a threfi. Yr arfer gennym ar y dechrau oedd 'Enw lle (sir ayyb)' e.e. Wales (Alaska), ond mae lle i ddadlau dros y ffurf arall hefyd, e.e. Wales, Alaska. Mae angen cysondeb fodd bynnag. Dwi'n tueddu i feddwl fod yr ail (heb y cromfachau) yn edrych yn well fel enw erthygl (yn achos lleoedd). Anatiomaros 23:54, 27 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Ydy, tydy e ddim mor intrusive. Ac i fynd a'r sgwrs gam bach ymhellach.... beth am Bryngaer Dinorwig yn hytrach na Dinorwig (bryngaer) neu a ydw i'n methu unwaith eto!? (A dyma i ti fedydd tân!) Llywelyn2000 00:02, 28 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Dwi'n meddwl fod Dinorwig yn achos arbennig efallai, gan mai Dinorwig yw enw'r bryngaer yn lle 'Bryngaer Dinorwig' (daw enw'r pentre o'r hen fryngaer). Ond basa'n un ffordd o osgoi'r cromfachau yn yr achos yma, mae'n debyg. Am unwaith dwi'n tueddu i gytuno efo'r drefn ar y wici Saesneg lle ceir e.e. 'Wales, Alaska', 'Bangor, Northern Ireland' ayyb ond 'Goronwy Owen (poet)' ayyb. H.y. cromfachau yn achos pobl a phethau, yn cynnwys adeiladau a safleoedd archaeolegol, ond 'enw lle, lleoliad' yn achos trefi ayyb. Ond yn y bôn mae'n fater o arddull ac arfer, felly mi af gyda'r mwyafrif (ond yn bendant dim 'Goronwy Owen, poet' (!). Gobeithio bod y seit yn iawn rwan hefyd; mi "ddiflanodd" ryw bum munud yn ôl ac roeddwn i'n methu postio yma. Anatiomaros 00:26, 28 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno efo ti. Do fe ddiflanodd y 'Newidiadau Diweddar' - dwi wedi cael un neu ddau o bethau rhyfedd yn digwydd yn ddiweddar. Gobeithio neno'r Tad fod y cwbwl yn saff ar eu syrfyrs nhw. Basa'n beth da i Fwrdd yr Iaith wneud copi o'r un Cymraeg, rhag ofn ...! Nos da am rwan. Llywelyn2000 00:46, 28 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Dwi am roi'r gorau am heno hefyd. Gormod o bwdin, ar ôl ympryd pythefnos! Paid â phoeni am gynnwys y wici - wneiff hynny ddim diflannu, mond un o'r "glitches" parhaus efo'r servers ydy o. Mae'n dangos ein bod yn weddol boblogaidd o ran ymwelwyr, mae'n debyg. Gyda llaw, oeddet ti'n gwybod fod dolen/hysbys bach i'r wici Cymraeg ar dudalennau croeso Firefox? (yma). Anatiomaros 01:03, 28 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Diddorol! Llywelyn2000 06:06, 28 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]