Sgwrs:Dadl cartwnau Muhammad Jyllands-Posten

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Prif lun[golygu cod]

Parthed Defnyddiwr:Si Gam Acèh, beth yw eich barn? Yn bersonol, os oes tramgwydd, ac mae'n amlwg fod, yna ni chredaf y dylem ei roi ar Wici. Eto, dw i'n gryf o blaid rhyddid cyhoeddi. Ond pan fo'r naill yn gryfach na'r llall, yna mae'n rhaid ildio. H.y. mae cyhoeddi'r cartwnau'n creu gofid; tydy peidio eu cyhoeddi ddim yn creu gofid. Ond gan fod gen i ddwy farn wahanol yna dydy hi ddim ots gen i pe paech yn penderfynnu eu cyhoeddi, chwaith. Llywelyn2000 06:58, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Cadw. Tra dw i'n cytuno na ddylid mynd allan o'n ffordd i dramgwyddo pobl, dw i'n meddwl dylwn ei gadw. Tydw i ddim yn berson crefyddol, ond mae yna lawr o bethau yn y byd yma dw i'n credu'n gryf drostynt (yr amgylched, parhad yr iaith Gymraeg, hawliau cyfartal.....). Yn annfodus, dydy rhai pobl ddim yn gweld y pynciau hyn mor bwysig ag ydw i, a rhaid i fi dderbyn y peth. Tydw i ddim o'r farn bod crefydd rhywsut yn 'trympio' pob dim arall. Dw i'n 'deall' (y gorau galla i) bod darluniau o Muhammad yn peri dicter i rai moslemiaid, ond mae'r unigolyn dan sylw Defnyddiwr:Si Gam Acèh, wedi bod yn mynd o un wicipedia i'r llall yn fwriadol chilio am ddelweddau o Muhammad. Petawn i'n ddim eisiau gweld delwedd arbennig, ymwld ag erthyglau ar y pwnc fydda'i lle diwethaf faswn i'n ymweld a nhw. Hefyd, o ddilyn dolen a osododd y defnyddiwr uchod wrth fandaleidido'r erthygl yma, mae'n llawn bygythiadau. Os oes rhaid, baswn i'n cynnig cyfaddawd, sef bod y ddelwedd yn cael ei symud reit i waelod yr erthygl, a bod rhybudd yn cael ei roi ar ddechrau'r erthygl bod y delweddau i'w cael yna, felly os digwydd i foslem ddod ar draws yr erthygl, unai'n fwriadol neu ar hap, bydd o neu hi'n gwybod i beidio scrolio i lawr i'r gwaelod.--Ben Bore 12:21, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Cadw. Cartwnau ydynt. —Adam (sgwrscyfraniadau) 22:18, 20 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
I ehangu: credaf gall sensro'r ddelwedd dan sylw osod cynsail peryglus. Beth sy'n digwydd os yw defnyddiwr arall yn dileu llun arall gan honni achos o dramgwydd? Perthnasedd i'r testun dylai pennu os yw delwedd yn ymddangos o fewn erthygl, nid teimladau personol unigolion. —Adam (sgwrscyfraniadau) 23:47, 22 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Cadw'r erthygl ond... rhaid gofyn a oes angen i'r ddelwedd fod mor amlwg? Dwi newydd edrych ar yr erthygl Ffrangeg, Caricatures de Mahomet du journal Jyllands-Posten, a does dim lluniau o'r cartwnau yno. Mae hyn yn gwestiwn anodd. Dwi'n gadarn o blaid rhyddid mynegiant ac eto, fel rhywun sy'n gyfarwydd â'r byd Mwslemaidd ers blynyddoedd mi fedra i ddeall yr ymateb i'r cartwnau hyn. Mae nifer fawr o Fwslemiaid, yn cynnwys y rhai mwyaf cymhedrol a seciwlar sy ddim yn ymddiddori mewn crefydd fel arall, yn gweld hyn fel y sarhad gwaethaf posibl iddyn nhw a'u crefydd. Mae unrhyw ddelweddau o Fohamed (a'r proffwydi eraill, yn cynnwys y boi 'na o Nasareth...) yn cythruddo rhai, ond mae'r cartwnau hyn yn rhywbeth arall. Gellid dadlau eu bod yn hiliol hefyd. Hyd y gwelaf i does dim categori ar Gomin (neu mae'n cuddio rhywle - rhaid i mi edrych eto) - pe bai na baswn yn awgrymu cael dolen iddo yn lle'r ffeil sy gennym ni. Fel yna byddai'r cartwnau ar gael i bwy bynnag sy'n dymuno gweld nhw. Mae'r erthygl ei hun yn gwbl ddilys, wrth gwrs. Anatiomaros 22:45, 20 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Byddai hynnyn gyfaddawd rhesymol os yw'n bosib (h.y. ei fod yn dal ar gael rhywle yn Comin ble mae'n hawdd rhoi dolen ato).--Ben Bore 07:47, 21 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Yn anffodus mae'n ymddangos nad oes copi o'r ffeil ar Gomin. Dwi wedi edrych ar y rhan fwyaf o'r erthyglau Wici eraill a dim ond 'en', mae'n ymddangos, sy'n defnyddio'r ffeil yma. Mae'n debyg all Comin ddim defnyddio'r ffeil am resymau hawlfraint. Dwi'n siwr bod y wicipediau eraill yn gwybod am y ffeil ar 'en' ac felly mae'n debyg eu bod wedi dewis peidio ei defnyddio. Anatiomaros 21:07, 21 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Ei dynnu. Yn dilyn y sylwadau uchod. Llywelyn2000 03:58, 22 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Cadw. Dwi o blaid cadw'r llun - nid yw Wicipedia yn cael ei sensro. Efallai bod rhywbeth yn dramgwyddus/offensive i rywun, ond ddim yn offensive i rywun arall. Gellid dadlau'r peth â'r lluniau sydd ar erthyglau rhyw hefyd. Trafodwyd hwn yn drwyadl ar y Wici Saesneg (ar gael yma). Yno, mae'n dweud, "NI thynnir y lluniau o Muhammad o'r erthygl hwn," ac os nid yw rhywun yn licio fe, wedyn gellid cuddio'r llun wrth ddilyn y cyfarwyddiadau yma. Wrth ystyried y pwnc 'ma, awgrymaf i chi i gyd ddarllen hwn. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 06:40, 22 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Ô.N. Mae lluniau yn darlunio erthygl. Mae'r llun yma'n darlunio'r erthygl yn dda iawn, a dyna'r holl bwynt o luniau Wicipedia, ac mae'n cyd-fynd â theitl yr erthygl hefyd. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 06:44, 22 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Dw i'n cytuno efo pob gair rwyt ti wedi'i ddweud. Yr unig wahaniaeth (neu ystyriaeth pellach) gen i ydy - teimladau'r rhai sy'n gwrthwynebu. Does neb yn gwrthwynebu'r lluniau rhyw, ond mae rhai yn gwrthwynebu'r cartwnau, a hynny'n eithafol o gry. Ond, ar ddiwedd y dydd, dw i ddim yn teimlo'n gryf y naill ffordd neu'r llall gan mod i'n gweld dadleuon o blaid ac yn erbyn. Llywelyn2000 06:54, 22 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae pynciau fel hyn wastad yn mynd i godi rhyw fath o gyffro, ac weithiau nid oes modd ystyried bob agwedd. "Trist yr un er gwell y gyd," fel dywedir yn Saesneg, efallai? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 07:10, 22 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Cadw: Er mor ddadleuol yw'r cartwnau, ni ddylai Wicipedia gael ei sensro. Pwyll 08:02, 22 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]