Sgwrs:Cofi

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ydy'r genod yn cofis hefyd?[golygu cod]

Sut mae c**t?(!) Ydy hi'n iawn i ddweud mai "person o Gaernarfon" ydy cofi? Roeddwn i dan yr argraff mai enw am hogiau'r dre ydy o, h.y. dim yn cynnwys y genod (pob parch iddyn nhw hefyd!). Beth am gynnwys restr o gofis enwog yma? Basa'n llenwi ychydig ar yr erthygl. Hwyl, Anatiomaros 15:05, 27 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Hehe. Ia mi wnes i feddwl am hyn. Mae angen ymchwil pellach dwi'n meddwl. Croeso i ti enwi Cofis enwog wrth gwrs ond mae llawer o bobl sy'n cael eu cyfri'n 'gofi' wedi gadael yr hen dref (Mei Mac) neu'n bobl dwad fel Geraint Lovegreen a fflyd o gyfryngis. Croeso i bawb enwebu cofis go iawn, wrth gwrs.... Llywelyn2000 23:24, 27 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Diolch i ti, mae'n darllen yn well rwan. Efallai fod rhai pobl yn defnyddio'r gair ar gyfer y ddau ryw heddiw, am wn i, ond dwi'n siwr mai at ddynion o'r dre yn unig y mae'r gair yn cyfeirio, yn hanesyddol, fel mae tarddiad posibl y gair yn awgrymu hefyd. Fel ti'n deud, mae angen mwy o ymchwil, ond dim heno, am un o'r gloch yn y bore! Anatiomaros 00:06, 28 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Bore da! Nage, ac nid bore ma chwaith. Trawaist yr hoelen yn deg, fel arfer. Llywelyn2000 04:38, 28 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]