Sffincs a'r Aifft

Oddi ar Wicipedia
Bathodyn cap Cyffinwyr De Cymru gyda'r Sffincs a'r Aifft.

Anrhydedd brwydr a roddwyd i luoedd Prydeinig a frwydrodd yn erbyn lluoedd Napoleon yn ymgyrch yr Aifft yw'r Sffincs a'r Aifft sydd ar ffurf delwedd o Sffincs Giza a'r gair EGYPT. Rhoddwyd yn gyntaf ym 1801 i filwyr unigol a ymladdodd yn yr ymgyrch i wisgo ar eu haddurnau.[1] Ym 1802 rhoddwyd yr anrhydedd i gatrodau cyfan, 33 ohonynt,[2] a daeth yr arwyddlun yn rhan o nifer o arwyddnodau milwrol yr unedau hyn yn enwedig bathodynnau capiau a baneri catrodol.

Y Sffincs a'r Aifft oedd yr anrhydedd brwydr cyntaf a wobrwywyd i gatrodau yn y Fyddin Brydeinig ar gyfer ymgyrch ac nid brwydr unigol.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Carman, W. Y. A Dictionary of Military Uniform (Llundain, B.T. Batsford, 1977), t. 122.
  2. 2.0 2.1 Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006), t. 187.