Semey

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Semey: panorama.
Lleoliad Semey yng Nghasachstan.

Dinas yng ngogledd-ddwyrain Casachstan yw Semey (Casacheg: Семей; Rwseg: Семей; hen enw Rwseg: Semipalatinsk). Mae'n adnabyddus yn bennaf am fod lleoliad prif safle arbrofi niwclear yr Undeb Sofietaidd gynt gerllaw.

Saif y ddinas ar ddwy lan Afon Irtysh. Ystyr yr enw Rwseg Semipalatinsk yw "saith palas" ac mae'n cyfeirio at adfeilion saith strwythur hynafol o waith carreg ger y ddinas. Mae'n ganolfan diwydiannol mawr ac yn ganolfan cludiant rhanbarthol.

Flag of Kazakhstan.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gasachstan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.