Semarang

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tawang Polder, tu cefn i'r hen orsaf

Dinas ar arfordir gogleddol ynys Jawa yn Indonesia yw Semarang. Hi yw prifddinas talaith Canolbarth Jawa, a chyda poblogaeth o tua 1.5 miliwn, hi yw pumed dinas Indonesia o ran poblogaeth.

Roedd sefydliad ar y safle yn y 9fed ganrif, gyda'r enw Bergota. Glaniodd y llynghesydd Tsineaidd Zheng He yma ym 1405, a cheir teml Tsineaidd fawr ier cof amdano. Tua diwedd y 15fed ganrif, ail-sefydlwyd y safle gan Kyai Pandan Arang, ac yn 1547 penodwyd ef yn bupati (maer) cyntaf Semarang. Yn 1705, daeth Semarang yn eiddo cwmni Iseldiraidd y VOC.

Teak furniture in old city center of Semarang.jpg