Selena
Oddi ar Wicipedia
Cantores Americanaidd o dras Fecsicanaidd oedd Selena Quintanilla-Pérez (16 Ebrill, 1971 - 31 Mawrth, 1995).
Recordiodd ei record gyntaf ym 1984. Hit mwyaf Selena oedd "Como La Flor" a ddaeth yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau ym 1992. Yn 1993, ennillodd Selena wobr Grammy am yr "Albwm Mecsicanaidd / Americanaidd gorau" am Selena Live! Yn 1994, cafodd yr albwm Amor Prohibido ei ryddhau a werthodd 22,000,000 o gopïau yn fyd-eang. Ym 1995, dechreuodd Selena recordio albwm uniaith Saesneg, Breuddwydio amdanyt ti, ond cafodd ei lladd ar 31 Mawrth, 1995.