Sarah Patterson

Oddi ar Wicipedia
Sarah Patterson
Ganwyd22 Ebrill 1972 Edit this on Wikidata
y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm Edit this on Wikidata

Actores ffilm Seisnig yw Sarah Patterson (ganed 22 Ebrill 1972).

Sarah Patterson yn rhan Rosaleen yn y ffilm The Company of Wolves (1984)

Cychwynodd ym myd actio ffilm yn actio rhan Rosaleen, cymeriad seiliedig i gryn raddau ar Hugan Goch Fach, yn ffilm ffantasi-arswyd The Company of Wolves (1984) gan Neil Jordan ac Angela Carter. Roedd hi'n 12 oed ar y pryd, a chafodd y ffilm ei ddisgrifio gan un feirniad fel "Lolita meets the Werewolf". Yn 1987 serenodd gyda Diana Rigg fel Eirawen mewn ffilm ffantasi arall, Snow White. Er nad oedd y ffilmiau hyn yn llwyddiant mawr o ran gwerthiant, enillodd yr actores gryn statws cwlt mewn canlyniad. Ar ôl y ffilmiau hyn dydi hi 'mond wedi ymddangos mewn ambell ffilm gan gwmni annibynnol Lisa Gornick, Valiant Doll: Do I Love You? oedd ei ffilm gyntaf mewn degawd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.