Sam Kinison
Oddi ar Wicipedia
Digrifwr ar ei sefyll ac actor o Americanwr oedd Samuel Burl "Sam" Kinison (8 Rhagfyr 1953 – 10 Ebrill 1992). Roedd yn enwog am ei gomedi gwleidyddol anghywir a'i arddull gryf a swnllyd, gan gynnwys ei sgrech nodweddiadol, a ddylanwadwyd gan ei yrfa gynnar yn bregethwr Pentecostalaidd. Bu farw mewn damwain car. Roedd yn ffrind agos i Rodney Dangerfield.