Saint-Jean-de-Luz
Oddi ar Wicipedia
Dinas a chymuned (commune) yn ne-orllewin Ffrainc yw Saint-Jean-de-Luz. Fe'i lleolir yn département Pyrénées-Atlantiques ar arfordir Cefnfor Iwerydd, hanner ffordd rhwng Bayonne i'r gogledd-ddwyrain a'r ffin rhwng Ffrainc a Sbaen i'r de-orllewin. Mae'n un o ddinasoedd talaith draddodiadol Lapurdi yn rhan Ffrengig Gwlad y Basg. Llifa Afon Nivelle trwy'r ddinas.