Saimaa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Saimaa ar lun lloeren. Llyn Ladoga ar y dde

Llyn mwyaf y Ffindir yw Saimaa. Gydag arwynebedd o tua 4,400 km², ef yw'r pedwerydd llyn naturiol yn Ewrop o ran maint. Saif yn ne-ddwyrain y wlad, ac mae'r trefi ar ei lan y cynnwys Lappeenranta, Imatra, Savonlinna, Mikkeli, Varkaus a Joensuu. Llifa afon Vuoksi o'r llyn i Lyn Ladoga ac mae Camlas Saimaa yn ei gysylltu a Gwlff y Ffindir.

Ceir nifer fawr o ynysoedd yn y llyn, ac mae rhywogaeth o forlo dŵr croyw sy'n unigryw i'r llyn yma.