Sadwrn (duw)
Oddi ar Wicipedia
Duw Rhufeinig yn tra arglwyddiaethu dros amaethyddiaeth a'r cynhaeaf oedd Sadwrn (Lladin: Saturnus). Roedd yn cyfateb i Cronos ym mytholeg Groeg.
Gwraig Sadwrn oedd Ops, ac roedd Sadwrn yn dad i Ceres, Iau, a Veritas, ymysg eraill. Roedd teml Sadwrn yn Rhufain ar y Forum Romanum a oedd yn cynnwys y Drysorfa Brenhinol. O Sadwrn ddaw'r enw Dydd Sadwrn (dies Saturni).