Saameg Gogleddol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Saameg gogleddol)
Tudalen allan o rifyn 1638 o Svenske och Lappeske ABC Book gyda Gwedi'r Arglwydd mewn Saameg Gogleddol

Iaith Ffinno-Wgraidd ydy'r Saameg gogleddol (davvisámegiella, Norwyeg a Swedeg: nordsamisk, Ffinneg: pohjoissaame). Mae'r iaith a nifer mwyaf o siaradwyr ganddi ymysg yr holl ieithoedd Saamaidd. Fe'u siaredir gan rhwng 15000 a 25000 o bobl yn y Lapdir yng ngogledd Norwy, Sweden ac y Ffindir. Yn Norwy mae statws iaith swyddogol gan Saameg gogleddol yn yr ardaloedd Finnmárku (Finnmark) a Romsa (Troms) ac yn rhai bwrdeisiaeth (Saameg gogleddol: gielda; Norwyeg: kommune): Guovdageaidnu (Kautokeino), Kárášjohka (Karasjok), Deatnu (Tana), Unjárga (Nesseby), Porsáŋgu (Porsanger) a Gáivuotna (Kåfjord). Yn y Ffindir mae statws iaith swyddogol ganddi yn Ohcejohka (Utsjoki), Eanodat (Enontekiö), Anár (Inari) a Soađegilli (Sodankylä).

Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.