Sgwrs:Saameg Gogleddol

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Yr enw[golygu cod]

Dau bwynt:

Pam gael dwy 'a'?
Pam 'gogleddol'? Byddai 'Sameg y Gogledd' yn fwy naturiol (cf. y Ffrangeg 'Same du Nord').

Nodaf hyn wrth basio - mae'n hwyr eto! Anatiomaros 23:15, 12 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Cytuno. Newid enw'r erthygl i'th gynnig di fyddai'n orau, Anatiomaros. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 14:11, 13 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae Lingua Món yn cynnig Sami (adnabyddir hefyd fel Lapeg). Ond Sami yw enw'r bobl hefyd ac yn fy marn i mae Sameg (Sami>Sam + -eg) yn gwneud synnwyr. Ond does gen i ddim ffynhonnell, wrth gwrs. Yn sicr mae "Saameg" yn hurt ac mae angen ei newid, ond gan nad oes brys arbennig dwi'n meddwl dylem aros i weld os oes gan rywun arall awgrym. Anatiomaros 15:19, 13 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]