Sŵn (UMCA)
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad |
---|---|
Dyddiad | 2003 |
Noson Gymraeg Urdd Myfyrwyr Aberystwyth yw Sŵn sy'n cael ei drefnu gan UMCA, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Sefydlwyd Sŵn wedi trafodaethau rhwng Meilyr Emrys, Llywydd UMCA ar y pryd a Steve Pickup, Rheolwr Adloniant Urdd Myfyrwyr Aberystwyth yn ystod haf 2003. Penderfynwyd enwi'r noson yn Sŵn wedi cystadleuaeth ar stondin UMCA yn Eisteddfod Meifod, 2003. Cynhelir y noson bron a bod yn fisol a hynny ar nos Iau.