Rudolf Nureyev
Oddi ar Wicipedia
| Rudolf Nureyev | |
|---|---|
Rudolf Nureyev yM 1973 |
|
| Ganwyd | 17 Mawrth, 1938 Irkutsk, Siberia |
| Bu farw | 6 Ionawr, 1993 Paris, Ffrainc |
| Enwau eraill | Rudolf Khametovich Nureyev |
| Galwedigaeth | Actor, dawnsiwr |
Dawnsiwr tatar o'r hen Undeb Sofietaidd oedd Rudolf Khametovich Nureyev (Tatar: Rudolf Xämät ulı Nuriev; Rwseg: Рудо́льф Хаме́тович Нуре́ев) (17 Mawrth 1938 – 6 Ionawr 1993). Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei waith ym myd ballet. Amlygodd ddoniau creadigol Nureyev rôl newydd ar gyfer dawnswyr ballet gwrywaidd, a arferai berfformio er mwyn cynnal y dawnswyr benywaidd yn unig.
Gadawodd yr Undeb Sofietaidd am y Gorllewin, er gwaethaf ymdrechion y KGB i'w rwystro.[1] Yn ôl archifau'r KGB a astudiwyd gan Peter Watson, roedd Nikita Khrushchev wedi arwyddo gorchymyn i ladd Nureyev.[2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ The KGB's long war against Rudolf Nureyev The Telegraph
- ↑ "My sax life" Paquito D'Rivera, Ilan Stavans