Romanos IV

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Diptych o Romanus ac Eudocia Macrembolitissa, yn cael eu coroni gan Grist (Bibliothèque nationale de France)

Ymerawdwr Bysantaidd o 1068 hyd 1071 oedd Romanos IV Diogenes neu Romanus IV Diogenes, Groeg: Ρωμανός Δ΄ Διογένης, Rōmanos IV Diogenēs (bu farw 1072.

Roedd Romanos Diogenes yn fab i Cystennin Diogenes, aelod o deulu pwerus o Cappadocia. Enillodd ddyrchafiad yn y fyddin, ond yn 1067 cafwyd ef yn euog o gynllwyn yn erbyn meibion Cystennin X Doukas. Tra'n aros ei ddienyddiad, cafodd ei alw i bresenoldeb yr ymerodres Eudokia Makrembolitissa, a'i hoffosdd gymaint nes rhoi pardwn iddo a'i briodi ar 1 Ionawr, 1068.

Trwy hyn daeth Romanos IV Diogenes yn gyd-ymerawdwr gyda Mihangel VII, Konstantios Doukas, ac Andronikos Doukas, ond ganddo ef yr oedd y pwer. Ymladdodd dair ymgyrch lwyddiannus yn erbyn y Twrciaid Seljuk, gan eu gyrru tu draw i Afon Ewffrates yn 1068 - 1069. Yn 1071 dechreuodd ymgyrch arall yn erbyn dinas Manzikert. Wedi rhai llwyddiannau ar y dechrau, gorchfygwyd Romanos ym Mrwydr Manzikert ar 26 Awst, 1071. Cymerwyd Romanos yn garcharor gan y Swltan Alp Arslan. Rhyddhawyd ef yn gyfnewid am dâl sylweddol.

Cymerodd gelynion Romanos yng Nghaergystennin fantais ar hyn i gynllwynio yn ei erbyn. Ymosodwyd arno gan Cystennin ac Andronikos Doukas, meibion Ioan Doukas. Gosodwyd gwarchae arno mewn caer yn Cilicia, ac ildiodd Romanos gan addo encilio i fynachlog. Dallwyd ef ar 29 Mehefin, 1072) a'i alltudio i Ynys Proti. Bu farw o'i glwyfau yn fuan wedyn.