Robert Schumann

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Robert Schumann

Cyfansoddwr Almaenig oedd Robert Schumann (8 Mehefin 1810 - 29 Gorffennaf 1856). Ynstyrir ef yn un i gyfansoddwyr pwysicaf y mudiad Rhamantaidd yn y 19eg ganrif.

Ganed ef yn Zwickau, yn yr hyn oedd yr adeg honno yn Deyrnas Sacsoni. Ei fwriad ar y cychwyn oedd dod yn bianydd proffesiynol, a bu'n cymeryd hyfforddiant gan Friedrich Wieck. Fodd bynnag, anafodd ei law, a phenderfynodd ganolbwyntio ar gyfansoddi.

Hyd at 1840, cyhoeddodd gyfansoddiadau ar gyfer y piano yn unig, ond yn ddiweddarach cyfansoddodd ar gyfer cerddorfa a phino, pedair symffoni, lieder ac un opera. Bu'n ysgrifennu llawer am gerddoriaeth yn y Neue Zeitschrift für Musik, cylchgrawn y bu yn un o'i sylfaenwyr.

In 1840, priododd Clara Wieck, merch Friedrich Wieck, ar ôl brwydr gyfreithiol hir a'i thad. Treuliodd y ddwy flynedd olaf o'i fywyd mewn sefydliad ar gyfer pobl ag afiechyd meddyliol ar ôl iddo geisio lladd ei hun.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill