Robert Redford

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Robert Redford yn 2005

Actor, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, model, amgylcheddwr, a dyngarwr Americanaidd yw Charles Robert Redford Jr. (ganwyd 18 Awst, 1936), a elwir gan amlaf yn Robert Redford. Ymysg ei ffilmiau enwocaf fel actor yw Butch Cassidy and the Sundance Kid, Jeremiah Johnson, The Sting, ac All the President's Men.

Enillodd Gwobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau ym 1980 am ei ffilm Ordinary People a Gwobr Anrhydeddus yr Academi am Lwyddiant Oes yn 2002.

Ym 1978 cyd-sefydlodd Gŵyl Ffilm Utah/UDA, a gafodd ei hail-enwi'n Ŵyl Ffilm Sundance ym 1991 ar ôl cymeriad Redford yn Butch Cassidy and the Sundance Kid. Mae bellach yn ŵyl ffilm annibynnol fwyaf yr Unol Daleithiau.