Richard Holbrooke

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Richard Holbrooke yn 2009

Diplomydd, golygydd cylchgronau, awdur, athro, swyddog y Corfflu Heddwch, a bancwr buddsoddi o Americanwr oedd Richard Charles Albert Holbrooke (24 Ebrill 1941 – 13 Rhagfyr 2010). Ef oedd yr unig berson i ddal swydd Ysgrifennydd Tramor Cynorthwyol yr Unol Daleithiau dros ddau ranbarth gwahanol o'r byd (Asia o 1977 hyd 1981 ac Ewrop o 1994 hyd 1996). O 1993 hyd 1994, Holbrooke oedd Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Almaen. Yn ystod Rhyfel Bosnia, a gyda cyn-Brif Weinidog Sweden Carl Bildt, cyflafareddodd cytundeb heddwch rhwng y ffacsiynau ym Mosnia a Hercegovina a arweiniodd at Gytundeb Dayton ym 1995. Rhwng 1999 a 2001, gwasanaethodd Holbrooke fel Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Cenhedloedd Unedig.

Yn ystod ymgyrch etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau yn 2004 yr oedd Holbrooke yn ymgynghorydd i ymgyrch y Seneddwr John Kerry. Yn ymgyrch arlywyddol 2008 yr oedd Holbrooke yn ymgynghorydd polisi tramor i'r Seneddwr Hillary Rodham Clinton. Yn Ionawr 2009 penodwyd yn ymgynghorydd arbennig ar Pakistan ac Affganistan, dan yr Arlywydd Barack Obama a'r Ysgrifennydd Tramor Hillary Clinton. Bu farw ar 13 Rhagfyr 2010 o gymhlethdodau o ganlyniad i ddyraniad aortig.