Rhyfel y Peloponnesos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y ddwy ochr yn Rhyfel y Peloponnesos. Coch:Athen a'i chyngheiriaid; Glas: Sparta a'i chyngheiriaid; Llwyd: Tiriogaethau Groegaidd eraill.

Ymladdwyd Rhyfel y Peloponnesos yng Ngwlad Groeg rhwng 431 CC a 404 CC, rhwng Athen a'i chyngheiriaid a Chynghrair y Peloponnesos dan arweiniad Sparta. Diweddodd y rhyfel gydag Athen yn ildio, ac yn colli ei hymerodraeth.

Yn gyffredinol, rhennir y rhyfel yn dair rhan gan haneswyr:

  1. Rhyfel Archidamos, wedi ei enwi ar ôl y brenin a chadfridog Archidamos II o Sparta, o 431 CC hyd 421 CC.
  2. Heddwch Nikias, o 421 CC hyd tua 413 CC.
  3. Rhyfel Dekeleia-Ionia, o tua 413 CC hyd nes i Athen ildio yn 404 CC.

Cyn y rhyfel, Athen oedd y grym mwyaf yng Ngwlad Groeg; wedi'r rhyfel, cymerwyd ei lle gan Sparta am gyfnod, hyd nes iddi hithau gael ei gorchfygu gan Thebai ym Mrwydr Leuctra (371 CC). Fodd bynnag, roedd y colledion yn drwm ar y ddwy ochr, ac ystyrir fod y rhyfel wedi rhoi diwedd ar oes aur Groeg. Ceir hanes y rhyfel yn bennaf yng ngwaith yr hanesydd Thucydides.