Rheilffordd Stêm Strathspey

Oddi ar Wicipedia
Trên yng Ngorsaf reilffordd Aviemore
Rheilffordd Stêm Strathspey
Unknown BSicon "d" Unused continuation backward
Rheilffordd Inverness a Chyffordd Perth
Unknown BSicon "d" Unknown BSicon "exBHF"
Grantown-on-Spey (Gorllewin)
Unknown BSicon "d" Unknown BSicon "KBHFxa"
Broomhill
eABZg+l exdCONTfq
Rheilffordd Strathspey (GNoSR)
Unknown BSicon "d" Station on track
Boat of Garten
CONTg STR d
Prif lein Rheilffordd yr Ucheldir
STR eBHF d
Aviemore (Glannau Spey)
XBHF-L KXBHFxe-R d
Aviemore
BS2l eBS2r d
Continuation forward Unknown BSicon "d"
Prif lein Rheilffordd yr Ucheldir

Mae Rheilffordd Stêm Strathspey yn rheilffordd dreftadaeth, 10 milltir o hyd, yr un hiraf yn yr Alban.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Agorwyd Rheilffordd Inverness a Chyffordd Perth ym 1863. Crëwyd Rheilffordd yr Ucheldir ym 1865 gan uno Rheilffordd Inverness a Chyffordd Perth a Rheilffordd Inverness a Chyffordd Aberdeen. Ym 1923 Daeth y rheilffordd yn rhan o'r Rheilffordd Llundain, Canolbarth a'r Alban ac ym 1948, rhan o Reilffyrdd Prydeinig. Caewyd y lein i deithwyr ym 1965, ac yn gyfan gwbl ym 1968.[2]

Boat of Garten
Broomhill

Atgyfodi[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Strathspey ym 1971, a Chymdeithas Rheilffordd Strathspey ym 1972, a chytunodd y cwmni i brynu'r lein rhwng Aviemore a Grantown oddi wrth Rheilffyrdd Prydeinig am £44,250[1]. Ailddechreuodd gwasanaeth rhwng Gorsaf reilffordd Aviemore a Gorsaf reilffordd Boat of Garten ym 1978, er doedd hi ddim posibl defnyddio'r orsaf Rheilffyrdd Prydeinig yn Aviemore tan 1998, oherwydd polisiau Rheilffyrdd Prydeinig[1]; Creuwyd gorsaf dros dro, Gorsaf reilffordd Aviemore (Glannau Spey)[3]. Estynnwyd y lein i orsaf newydd, Broomhill yn 2002, ac mae gwaith yn mynd ymlaen i estyn y lein yn ôl i Grantown.[2]

Defnyddir hen sied locomotifau Aviemore fel gweithdy peirianneg[1].

Locomotifau[golygu | golygu cod]

2-6-0 Dosbarth 2MT Ivatt
Y locomotif 'Caledonian' yng Ngwaith Aviemore
"Braeriach" yng Ngwaith Aviemore
D5862, Boat Of Garten

Locomotifau stêm[golygu | golygu cod]

Locomotifau diesel[golygu | golygu cod]

  • 0-4-0 diesel hydrolig Andrew Barclay a meibion,Kilmarnock "Power of Enterprise"
  • 0-4-0 Rheilffyrdd Prydeinig rhif D2774. Atgyweirir.
  • 0-6-0 Rheilffyrdd Prydeinig Dosbarth 08 rhifau 08940/D3605. Gweithredol. Du.
  • Bo-Bo Rheilffyrdd Prydeinig Dosbarth 26 rhifau 26002/D5302.Angen atgyweiriad trylwyr. Yn storfa, Boat of Garten.
  • Bo-Bo Rheilffyrdd Prydeinig Dosbarth 26|rhifau 26025/D5325. Atgyweirir yn Aviemore.
  • Bo-Bo Rheilffyrdd Prydeinig Dosbarth 27 rhifau 27050/D5394. Adeiladwyd 1962. Gweithredol. Glas.
  • BR A1A-A1A Rheilffyrdd Prydeinig Dosbarth 31 rhifau 31327/D5862. Gweithredol, Gwyrdd.
  • 0-4-0 diesel hydrolig Cwmni North British. Yn storfa, Boat of Garten, yn disgwyl atgyweiriad.
  • 0-4-0 diesel mecanyddol Cwmni Ruston a Hornsby adeiladwyd 1948. Atgyweirir.
  • 0-4-0 diesel mecanyddol Cwmni Ruston a Hornsby adeiladwyd 1950. Yn storfa yn Aviemore.

Cerbydau diesel[golygu | golygu cod]

  • Rheilffyrdd Prydeinig Dosbarth 107 rhif Sc51990. Yn storfa, Boat of Garten.
  • Rheilffyrdd Prydeinig Dosbarth 107 rhif Sc52008. Yn storfa, Boat of Garten.
  • Rheilffyrdd Prydeinig Dosbarth 107 rhif Sc52030. Disgwyl am atgyweiriad.
  • Rheilffyrdd Prydeinig Dosbarth 114 rhif E54047. Yn storfa.
  • Rheilffyrdd Prydeinig Dosbarth 117 rhif Sc51367. Gweithredol.
  • Rheilffyrdd Prydeinig Dosbarth 117 rhif Sc51402. Gweithredol.
  • Rheilffyrdd Prydeinig Dosbarth 117 rhif S59511. Atgyweirir, Boat of Garten.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Gwefan undiscoveredscotland
  2. 2.0 2.1 "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-01. Cyrchwyd 2016-06-07.
  3. "Gwefan steamrailwaylines". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-19. Cyrchwyd 2021-02-20.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]