Rhaeadr Diserth

Oddi ar Wicipedia

Mae Rhaeadr Diserth ynghanol pentref Diserth, Sir Ddinbych, ar Afon Ffyddion, sydd yn ymuno ag Afon Clwyd ger Rhuddlan. Uchder y rhaeadr yw 70 troedfedd. Mae dwy wal fawr ger y rhaeadr; mae’n debyg roedd olwyn dŵr yno. Roedd sawl melin flawd a phandai yn y pentref, a ailgyfeiriwyd yr afon i roi pŵer iddynt am gyfnod. Erbyn hyn mae’r melinau wedi mynd ac mae’r afon yn llifo dros y rhaeadr eto.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan dyserth.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-29. Cyrchwyd 2018-12-14.