Resbiradu

Oddi ar Wicipedia
Resbiradu
Enghraifft o'r canlynolproses rythmig Edit this on Wikidata
Mathproses fiolegol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmewnanadlu, anadlu, allananadlu Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ym myd ffisioleg, diffinnir resbiradu (sy'n cael ei gymysgu'n aml ag anadlu) fel y broses o symud ocsigen o'r awyr tu allan i'r celloedd tu fewn meinwe a symud carbon deuocsid i'r cyfeiriad arall. Mae hyn yn wahanol i'r diffiniad biocemegol o resbiradaeth, sy'n cyfeirio at resbiradaeth gellog: y broses fetabolaidd lle mae organeb yn derbyn egni trwy adweithio ocsigen gyda glwcos er mwyn creu dŵr, carbon deuocsid ac ATP (ffynhonnell egni). Er bod resbiradaeth ffisiolegol yn angenrheidiol er mwyn cynnal resbiradaeth gellog ac o ganlyniad bywyd mewn anifeiliaid, mae'r prosesau'n unigryw: mae resbiradaeth gellog yn digwydd yng nghelloedd unigol yr anifail tra bod resbiradaeth ffisiolegol yn ymwneud â llif mawr a symudiad metabolynnau rhwng yr organeb a'r amgylchedd allanol.

Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.