Refferendwm ar statws Puerto Rico, 2012

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cynhaliwyd refferendwm ar statws gwleidyddol Puerto Rico ym Mhuerto Rico ar 6 Tachwedd 2012.[1][2] Gofynnwyd i etholwyr Puerto Rico os oeddynt yn cytuno i gadw'r statws tiriogaethol cyfredol ai beidio, a rhoddwyd iddynt tri dewis o statws gwleidyddol arall: talaith, annibyniaeth, neu wlad sofran gyda chydberthynas â'r Unol Daleithiau.[3]

Cynhaliwyd refferenda or blaen ar statws gwleidyddol Puerto Rico, a'r diweddaraf ym 1998.[4][5][6]

Yn ôl canlyniadau'r refferendwm hon, pleidleisiodd 53.9% o etholwyr yn erbyn cadw'r statws cyfredol, a phleidleisiodd 61.15% o blaid statws talaith os yw'r statws am newid.[7]

Disgwylir i Gomisiynydd Preswyl Puerto Rico gyflwyno deddfwriaeth i Gyngres yr Unol Daleithiau er mwyn derbyn Puerto Rico i'r Unol Daleithiau.[2]

Cyfeiriadau[golygu]