Psilocybin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Strwythur cemegol psilocybin

Cyfansoddyn rhithweledigaethol a gynhyrchir yn naturiol gan ryw 200 rhywogaeth o fadarch yw psilocybin— rhywogaethau y cyfeirir atynt fel madarch psilocybin. [1]. Ymhlith y madarch hyn, mae'r psilocybe semilanceata yn nodedig am ei bod yn meddu ar un o'r crynodiadau uchaf o'r cyfansoddyn psilocybin a chan ei bod yn tyfu yng Nghymru [2]. Yn y corff gaiff psilocybin ei drawsnewid yn psilocin, sylwedd sydd ag effeithiau newid-fyddyliol cyffelyb i LSD. Yn gyffredinol, gall greu teimladau o wynfyd a pheri rhithweledigaethau gweledol a meddyliol, newidiadau yn y modd y cenfyddir, gan gynnwys synwyr amser gwyrdroedig a phrofiadau ysbrydol.

P. semilanceata: ffwng cyffredin iawn drwy Ewrop, Canada ac Unol Daleithiau America.

Y crynodiad mewn gwahanol ffwng[golygu]

Rhywogaeth  % psilocybin
P. azurescens
1.78
P. serbica
1.34
P. semilanceata
0.98
P. baeocystis
0.85
P. cyanescens
0.85
P. tampanensis
0.68
P. cubensis
0.63
P. weilii
0.61
P. hoogshagenii
0.60
P. stuntzii
0.36
P. cyanofibrillosa
0.21
P. liniformans
0.16
Y crynodiad mwyaf y gofnodwyd o psilocybin (% pwysau sych) mewn 12 rhywogaeth o Psilocybe[3]

Cyfeiriadau[golygu]